Cyduned nef a llawr
I foli'n Harglwydd mawr
Mewn hyfryd hoen;
Clodforwn, tra bo chwyth,
Ei ras a'i hedd di-lyth,
Ac uchel ganwn byth:
"Teilwng yw'r Oen."
Tra dyrchaif saint eu cân
O gylch yr orsedd lân,
Uwch braw a phoen,
O boed i ninnau nawr,
Drigolion daear lawr,
Ddyrchafu'r enw mawr:
"Teilwng yw'r Oen."
Er goddef cur a loes,
Tra yma'n cario'r groes,
Mewn byd o boen;
Rhown deyrnged hyd y nef
O foliant iddo Ef;
Dadseiniwn âg un llef -
"Teilwng yw'r Oen."
Molianned pawb ynghyd
Am waith ei gariad drud,
Heb dewi a son;
Anrhydedd, parch a bri
Fo i'n Gwaredwr ni
Dros oesoedd maith di-ri':
"Teilwng yw'r Oen!"
bo chwyth :: fo chwŷth
dyrchaif saint :: dyrcha'r saint
Tonau [664.6664]:
Gwalia (alaw Gymreig)
Malvern (H J Gauntlett 1805-76)
St Austin (F A G Ouseley 1825-89)
Trinity (Felice de Giardini 1716-96)
No comments:
Post a Comment
These comments are moderated. Please be respectful. Commercial solicitations and offensive comments are sent to spam and will be reported.