Arglwydd, Arwain Trwy'r Anialwch
 
 
1745 William Williams 1717-91
Tonau [878747]:
Caersalem (Robert Edwards 1796-1862)
Calfari (Samuel Stanley 1767-1822)
Capel y Ddôl (J D Jones 1827-70)
Catherine (David Roberts [Alawydd] 1820-72)
Clement (hen alaw eglwysig)
Cwm Rhondda (1907 John Hughes 1873-1932)
Catherine (David Roberts [Alawydd] 1820-72)
Dix (William H Monk 1823-89)
Erromanga (<1875)
Hyder (Richard Ellis 1775-1855)
Llan Baglan (D Afan Thomas 1881-1928)
Llanilar (alaw Gymreig)
Pilgrimage (George J Elvey 1816-93)
St Peter (alaw Eglwysig)
Tamworth (<1835)
gwelir: Agor y ffynonau melus
Arglwydd agor im' dy fynwes
Ymddiriedaf ynot Iesu
___________
The Translation from Brigham Young University Resources for Welsh Learners follows:
Arglwydd, arwain trwy'r anialwch,
  Fi, bererin gwael ei wedd,
Nad oes ynof nerth na bywyd
  Fel yn gorwedd yn y bedd:
    Hollalluog,
  Ydyw'r Un a'm cwyd i'r lan.
Os agori im' dy fynwes,
  I gael gwel'd y cariad llawn,
Lifodd allan fel y moroedd 
  Ar Galfaria un prydnawn:
    Ti gai'r cwbl,
  Roddaist imi yn fy rhan.
Myfi grwydrais hir flynyddau,
  Ac heb weled goleu'r wawr,
Anobeithiais heb dy allu
  Dd'od o'r anial dir yn awr!
    Dere dy hunan,
  Dyna'r pryd y dof i maes.
Colofn dân rho'r nos i'm harwain,
  A rho'r golofn niwl y dydd;
Dal fi pan bwy'n teithio'r manau
  Geirwon yn fy ffordd y sydd:
    Rho i mi fanna,
  Fel na bwyf yn llwfwrhau.
Agor y ffynhonnau melus
  Sydd yn tarddu o'r graig i maes;
'R hyd yr anial mawr canlyned
  Afon iachawdwriaeth gras:
    Rho i mi hynny,
  Dim i mi ond dy fywnhau.
Pan bwy'n myned trwy'r Iorddonen
  Angeu creulon yn ei rym,
Ti 'est trwyddi gynt dy hunan,
  P'am yr ofnaf bellach ddim?
    Buddugoliaeth,
  Gwna imi waeddi yn y llif!
Ymddiriedaf yn dy allu,
  Mawr yw'r gwaith a wnest erioed:
Ti ge'st angau, ti gest uffern,
  Ti ge'st Satan dan dy droed:
    Pen Calfaria,
  Nac aed hwnw byth o'm côf.
trwy'r anialwch :: drwy'r anialwch
Colofn dân rho'r nos ::           
            Dyro y Golofn dân
            Nos, rho'r golofn dân
            Rho'r golofn dân y nos
A rho'r golofn niwl :: A'r cwmwl niwl o'mlaen
Rho i mi :: Rho im'
na bwyf yn llwfwrhau ::           
            na b'wyf i lwyfrhau
            na bo im' lwywrhau
Dim i mi ond :: Fel y gallwyf
Gwna imi :: Gwna im'
iachawdwriaeth :: iechydwriaeth
Ymddiriedaf :: Mi ymddiriedaf
a wnest erioed :: a wne'st ti erioed
            - - - - -
Arglwydd, arwain trwy'r anialwch,
  Fi bererin gwael ei wedd,
Dyro ynof nerth a rhinwedd
  Nes im' orwedd yn fy medd:
    Hollalluog,
  Dal i fyny f'enaid gwan.
Agor y ffynhonnau melys
  Sydd o'r graig yn tarddu maes;
Hyd yr anial mawr canlyned
  Afon iachawdwriaeth gras:
    Gâd im' yfed,
  Byth o ffrydiau bywiol hon.
Rho'r golofn dân y nos,
  Dyro gwmwl niwl y dydd;
Dal fi pan f'wy'n teithio'r manau
  Geirwon yn fy ffordd y sydd:
    Cadw ngolwg,
  Beunydd tua'r hyfryd wlad.
1745 William Williams 1717-91
Tonau [878747]:
Caersalem (Robert Edwards 1796-1862)
Calfari (Samuel Stanley 1767-1822)
Capel y Ddôl (J D Jones 1827-70)
Catherine (David Roberts [Alawydd] 1820-72)
Clement (hen alaw eglwysig)
Cwm Rhondda (1907 John Hughes 1873-1932)
Catherine (David Roberts [Alawydd] 1820-72)
Dix (William H Monk 1823-89)
Erromanga (<1875)
Hyder (Richard Ellis 1775-1855)
Llan Baglan (D Afan Thomas 1881-1928)
Llanilar (alaw Gymreig)
Pilgrimage (George J Elvey 1816-93)
St Peter (alaw Eglwysig)
Tamworth (<1835)
gwelir: Agor y ffynonau melus
Arglwydd agor im' dy fynwes
Ymddiriedaf ynot Iesu
___________
The Translation from Brigham Young University Resources for Welsh Learners follows:
| Cwm Rhondda | Guide Us, O Thou Great Jehovah | 
| Wele’n sefyll rhwng y myrtwydd | Guide us, O thou great Je-ho-vah, | 
| Wrthddrych teilwng o fy mryd; | Guide us to the prom-mised land. | 
| Er o’r braidd ‘rwy’n Ei adnabod | We are weak, but thou art a-ble; | 
| Ef uwchlaw gwrthrychau’r gyd: | Hold us with thy pow’r-ful hand. | 
| Henffych fore! Henffych fore! | Ho-ly Spir-it, Ho-ly Spir-it, | 
| Caf ei weled fel y mae. | Feed us till the Sav-ior comes, Savior comes, | 
| Caf ei weled fel y mae. | Feed us till the Sav-ior comes. | 
| Agor y ffynhonnau melus | O-pen Jesus, Zion’s fountains; | 
| ‘N tarddui maes o’r Graig y sydd | Whence the healing streams do flow; | 
| Colofn dan rho’r nos i’m harwain | Let the fi-ery, cloud-y pil-lar | 
| A rho golofn niwl y dydd | Guard us to this ho-ly home. | 
| Rho i mi fanna, Rho i mi fanna | Great Redeemer, Great Re-deem-er, | 
| Fel na bwyf yn llwfwrhau | Feed us till the Sa-vior comes, Savior comes, | 
| Fel na bwyf yn llfwrhau. | Feed us till the Sa-vior comes. | 
| Pan yn troedio glan Iorddonen | When the earth be-gins to trem-ble, | 
| Par i’m hafnau suddo i gyd | Bid our fear-ful thoughts be still; | 
| Dwg fi drwy y tonnau geirwon | When thy judg-ments spread de-struc-tion, | 
| Draw i Gannan-gartref clyd: | Keep us safe on Zi-on’s hill, | 
| Mawl diderfyn, Mawl diderfyn | Sing-ing prais-es, Sing-ing prais-es, | 
| Fydd i’th enw byth am hyn | Songs of glo-ry un-to the, un-to thee, | 
| Fydd i’th enw byth am hyn. | Songs of glo-ry un-to thee. | 
No comments:
Post a Comment
These comments are moderated. Please be respectful. Commercial solicitations and offensive comments are sent to spam and will be reported.