Dan Jones preaching in Wales -- Mae Dan Jones yn pregathu yng Nghymru
LDS HYMNAL ENGLISH TO WELSH HYMN
HYMNAU SAESNEG I'R GYMRAEG

1. The Morning Breaks -- 1. Y Boreu DDaeth
10. Jesus, Lover of My Soul -- Iesu, Cyfaill F'enaid Cu

TRANSLATIONS FROM THE 1852 WELSH HYMNAL INTO ENGLISH


Extras:

Hymn No. 97, Lead, Kindly Light -- Oleuni Mwyn, Trwy'r Gwyll Sy'n Cau Bob Tu

Source for this hymn here.

Oleuni mwyn,
    trwy'r gwyll sy'n cau bob tu,
  O! Arwain fi;
Pell oddi cartref wyf,
      a'r nos yn ddu,
  O! Arwain fi;
Cadw fy nhraed;
    ni cheisiaf weled dim
O'r tir sy' draw;
    un cam sy ddigon im.

Nid oeddwn gynt
    yn ymbil am i'th wawr
  Fy arwain i;
Dethol fy ffordd
    a fynnwn, ond yn awr
  O arwain Di:
Carwn y llachar ddydd;
    er ofnau'r hynt
Bu balch fy mryd:
    na chofia'r amser gynt.

Diau dy allu,
    a'm bendithiodd cyd
  A'm harwain i
Dros waun a rhos
    dros graig a chenllif, hyd
  Pan wawrio hi,
A'r engyl gyda'r wawr,
     yn gweu fo,
A gerais er ys talm,
    a gollais dro.

cyf. Sir John Morris-Jones 1864-1929Tonau [10.4.10.4.10.10]:
    Lux Benigna (John B Dykes 1823-76)
    Arweiniad (R Mills 1846-1903)
    Bonifacio (David Evans 1874-1948)
    Sandon (C H Purday 1799-1885)
gwelir:
    Oleuni mwyn trwy dew gysgodau'r nef
    Ynghanol nos oleuni mwyn y nef

No comments:

Post a Comment

These comments are moderated. Please be respectful. Commercial solicitations and offensive comments are sent to spam and will be reported.