Dan Jones preaching in Wales -- Mae Dan Jones yn pregathu yng Nghymru
LDS HYMNAL ENGLISH TO WELSH HYMN
HYMNAU SAESNEG I'R GYMRAEG

1. The Morning Breaks -- 1. Y Boreu DDaeth
10. Jesus, Lover of My Soul -- Iesu, Cyfaill F'enaid Cu

TRANSLATIONS FROM THE 1852 WELSH HYMNAL INTO ENGLISH


Extras:

Hymn No. 166, Abide with Me -- Trig Gyda Mi

This hymn, found here, has several more verses. These are the ones used in the modern, LDS Hymnal.


(Gweddi am bresennoldeb Crist)
[Prayer for the Presence of Christ]

Trig gyda mi,
    fy Nuw, mae'r dydd yn ffoi,
Cysgodau'r hwyr
    o'm hamgylch sy'n crynhôi;
  Diflana nerth
      y ddaear hon, a'i bri,
  Cynorthwy'r gwan,
      O! aros gyda mi.
Nid digon gair,
    na brysiog wel'd Dy wedd,
Ond gwna Dy drigfan
    gyda mi mewn hedd,
  Yn ostyngedig,
      addfwyn, gyfaill cu,
  Nid fel ymdeithydd,
      aros gyda mi.

1847 Henry Francis Lyte 1793-1847
Tunes [10.10.10.10]:
    Abide with me (1847 H F Lyte 1793-1847)
    Evening Hymn / Eventide (W H Monk 1823-89)
    Morecambe (1870 F C Atkinson 1841-96)
    Penitentia (Edward Dearle 1806-91)
(Cyf.) John Roberts (Ieuan Gwyllt) 1822-77
Tonau [10.10.10.10]:     Berlin (F Mendelssohn 1809-47)     Ellers (E J Hopkins 1818-1901)     Emyn Hwyrol / Eventide (W H Monk 1823-89)     Troyte's Chant (A H D Troyte 1811-57)

Hymn No. 246, Onward, Christian Soldiers -- Rhagom, filwyr Iesu

This hymn, found here, has an additional verse that is not in the modern, LDS Hymnal about the church never changing, built on the rock, etc. Also note that the music is by Sir Arthur Sullivan of Gilbert and Sullivan fame.


(Cân yr Eglwys Filwriaethus)
[Song of the Church Militant]

Rhagom, filwyr Iesu
  Awn i'r gad yn hy!
Gwelwn groes ein Prynwr
  Hon yw'n cymorth cry';
Crist, frenhinol Arglwydd,
  Yw'n Harweinydd mad;
Chwifio mae ei faner,
  Geilw ni i'r gad.

  Rhagom, filwyr Iesu!
    Awn i'r gad yn hy!
  Gwelwn groes ein Prynwr
    Hon yw'n cymorth cry'.

Arwydd buddugoliaeth,
  Wna i Satan ffoi;
Filwyr ffyddlawn Iesu,
  Dowch yn ddiymdroi:
Seiliau uffern grynant
  Gan y nerthol floedd,
Frodyr, bloeddiwch eto,
  Molwch Ef ar goedd.

Fel rhyw fyddin arfog
  Symud, Eglwys Dduw!
Frodyr, lle y troediwn,
  Llwybr y seintiau yw;
Nid ym ni'n rhanedig,
  Ond un corff di-goll,
Un mewn ffydd a gobiath,
  Un mewn cariad oll.
Dowch gan hynny, bobloedd
  Dyma'r dedwydd lu;
Y fuddugol anthem
  Seiniwch gyda ni:
Moliant ac anrhydedd
  Byth i'r Iesu glan;
Dynion ac angylion
  Unant yn y gan!
hy' :: hyf
cry' :: cryf

1865 Sabine Baring-Gould 1834-1924
Cyf. Lewis Edwards 1809-1887
Tonau [6565T]:     ? (J H Roberts (Pencerdd Gwynedd) 1848-1924)     Caledfryn / Vexillum (Henry Smart 1813-79)     St Gertrude (Arthur Sullivan 1842-1900)

Hymn No. 160, Softly Now the Light of Day -- Tyner Oleu'r Dydd yn Awr

This hymn found here, has two more verses in both English and Welsh. The modern, LDS Hymnal only uses the first verse (which makes it nice for a closing hymn after a long meeting).

Tyner oleu'r dydd yn awr
  Dderfydd nes y cwyd y wawr;
Gofal ffŷ, a llafur blin,
  Rho'th gymdeithas, Ddwyfol Un.

cyf. James Celty Jones 1843-1912
George Washington Doane 1799-1859Tunes [7777]:
    Mercy (Louis Moreau Gottschalk 1829-69)
    Seymour (Carl M von Weber 1786-1826)

Hymn No. 97, Lead, Kindly Light -- Oleuni Mwyn, Trwy'r Gwyll Sy'n Cau Bob Tu

Source for this hymn here.

Oleuni mwyn,
    trwy'r gwyll sy'n cau bob tu,
  O! Arwain fi;
Pell oddi cartref wyf,
      a'r nos yn ddu,
  O! Arwain fi;
Cadw fy nhraed;
    ni cheisiaf weled dim
O'r tir sy' draw;
    un cam sy ddigon im.

Nid oeddwn gynt
    yn ymbil am i'th wawr
  Fy arwain i;
Dethol fy ffordd
    a fynnwn, ond yn awr
  O arwain Di:
Carwn y llachar ddydd;
    er ofnau'r hynt
Bu balch fy mryd:
    na chofia'r amser gynt.

Diau dy allu,
    a'm bendithiodd cyd
  A'm harwain i
Dros waun a rhos
    dros graig a chenllif, hyd
  Pan wawrio hi,
A'r engyl gyda'r wawr,
     yn gweu fo,
A gerais er ys talm,
    a gollais dro.

cyf. Sir John Morris-Jones 1864-1929Tonau [10.4.10.4.10.10]:
    Lux Benigna (John B Dykes 1823-76)
    Arweiniad (R Mills 1846-1903)
    Bonifacio (David Evans 1874-1948)
    Sandon (C H Purday 1799-1885)
gwelir:
    Oleuni mwyn trwy dew gysgodau'r nef
    Ynghanol nos oleuni mwyn y nef

Hymn No. 44, Beautiful Zion, Built Above -- O! Brydferth Seion, Godwyd Fry

Source for this hymn, here.

O! brydferth Seion, godwyd fry,
O! brydferth ddinas garaf fi;
  Hardd yw ei phyrth o berlau yw,
  Hardd yw ei theml a'i haul yw Duw!
Ef a fu farw ar Galfari,
Egyr y perlog byrth i mi.

    Seion, Seion, hawddgar Seion;
      O! brydferth Seion, Dinas wen ein Duw!
    Seion, Seion, hawddgar Seion;
      O! brydferth Seion, Dinas wen ein Duw!

Prydferth yw'r nef, bob bro a bryn,
Prydferth angelion, yn eu gwyn;
  Hyfryd ganiadau seinir fry,
  Peraidd delynau sydd i'r llu,
Yno caf foli'm Crist a'i waed -
Yno'r addolaf wrth ei draed.

Prydferth goronau ar bob pen,
Prydferth yw'r palmwydd hyd y nen;
  Prydferth yw gwisgoedd meibion Duw,
  Prydferth yw pawb ânt yno'i fyw.
Yno 'rwy'n myn'd i foli'm Nêr,
Yno caf heddwch hir a phêr.

Prydferth yw gorsedd Iesu'm Duw,
Per yw caniadau engyl gwiw,
  Hyfryd yw gorphwys hwnt i'r bedd;
  Hyfryd yw cartref bythol hedd.
Yno caf wel'd fy Ngheidwad cu,
Tyred i'm cartref gyda mi.

cyf. John Jenkins (Gwili) 1872-1936Tôn [888888+8.10.8.10]: Beautiful Zion (1850 Thomas J Cook)
1850 George Gill 1820-80
   

Hymn No. 141, Jesus the Very Thought of Thee -- Meddwl Am Danat Iesu Da

This hymn found here.

Jesu dulcis memoria

Meddwl am danat Iesu da,
  Sy'n felus yr awr hon;
Ond mil melusach
    fydd Dy wel'd,
  A gorphwys ger Dy fron.

Ni ddichon cân, ni ddichon sain,
  Na chalon byth gael hyd
I enw gwell nag Iesu Grist,
  Gwaredwr mawr y byd.

Gobaith pob calon ysig, friw,
  Llawenydd, llariaidd rai;
i'r sawl a gwymp mor dyner wyt,
  A dan, i faddeu'n bai.

Ond beth i'r rhai a'th gawsant Di? -
  Pwy ddichon ddyweyd yn llwyr
Am gariad Iesu, Pa beth yw?
  Neb ond dy saint a ŵr.

Iesu, ein hunig gân wyt Ti,
  A'n huchel gamp o fri;
Ein holl ogoniant wyt yn awr,
  A byth a fyddi Di.

cyf. Thomas Jones Humphreys 1841-1934o'r Lladin
Jesu dulcis memoria
Bernard of Clairvaux 1091-1153
[Mesur: MC 8686]
gwelir:
    'Does eisiau'n bod nac ofn
    Gwaith griddfan sydd gan bwys euogrwydd du
    Iesu mae meddwl am dy hedd
    O Iesu meddwl am Dy hedd
    O Iesu gwiw gwyn fyd a brofo'th Ddawn

Hymn No. 335, Brightly Beams Our Father's Mercy -- Mae Goleuni'r Nef i D'Wynu

This one is for Men's Chorus, as a sort of sailors' song. Not that women can't be sailors, mind you! My source here.

(Goleu ar y lan)

Mae goleuni'r nef i d'wynu,
    Dros y don i'r morwr gwan;
Ond i ni mae Duw'n ymddiried,
    Cadw goleu ar y lan.
  Cadw'th lamp i losgi'n oleu
      A disgleirio ar y dòn;
  Gelli achub bywyd rhywun,
      Y'ngoleuni gwanaidd hon.

Y mae'r nos yn ddu a gerwin,
    Rhua'r dymestl yn mhob man;
Y mae llygaid prudd yn tremio,
    Am y goleu ar y lan.
  Cadw'th lamp i losgi'n oleu
      A disgleirio ar y dòn;
  Gelli achub bywyd rhywun,
      Y'ngoleuni gwanaidd hon.

Cadw'th lamp i losgi'n loew,
    Cofia am y morwr gwan;
Rhag y collir bywyd hwnw,
    Eisiau goleu ar y lan.
  Cadw'th lamp i losgi'n oleu
      A disgleirio ar y dòn;
  Gelli achub bywyd rhywun,
      Y'ngoleuni gwanaidd hon.

cyf. Watkin Hezekiah Williams (Watcyn Wyn) 1844-1905
Tôn [8787D]:
    Goleu Ar Y Lan / Let The Lower Lights Be Burning
        (1871 Philip P Bliss 1838-76)

Hymn No. 98, I Need Thee Every Hour -- Mae D'Eisiau Di Bob Awr

Source for this hymn here.

Mae d'eisiau di bob awr,
  Fy Arglwydd Dduw,
Daw hedd o'th dyner lais
  O nefol ryw.

    Mae d'eisiau,
        O mae d'eisiau,
    Bob awr mae arnaf d'eisiau,
    Bendithia fi, fy Ngheidwad,
    Bendithia nawr.

Mae d'eisiau di bob awr,
  Trig gyda mi,
Cyll temtasiynau'u grym
  Yn d'ymyl di.

Mae d'eisiau di bob awr,
  Rho d'olau clir,
Rho imi nerth, a blas
  Dy eiriau gwir.

Mae d'eisiau di bob awr,
  Sancteiddiaf Ri,
Yn Iesu gwna fi'n wir
  Yn eiddot ti.

cyf. John Roberts (Ieuan Gwyllt) 1822-77
Tôn: Mae d'eisiau di bob awr / I need thee every hour
    (Robert Lowry 1826-99)


hefyd: Mae'th eisieu Di bob awr

Hymn No. 14, Jesus, the Very Thought of Thee -- Iesu, Mae Meddwl am Dy Hedd

There is an extra verse the Welsh and other English versions that is left out here. My source link here.

"Bendithier Dy Enw gogoneddus
a dyrchafedig goruwch pob bendith a moliant."
["Blessed be Thy glorious Name
and exalted high above every blessing and praise."]

Iesu, mae meddwl am dy hedd
  Yn lloni'm hysbryd i;
Ond O! melusach fydd dy wedd,
  A'th bresennoldeb cu.

Ni thraetha llais, ni thraetha cân,
  A'u doniau oll y'nghyd,
Felusach gair na'th enw glân,
  Iachawdwr mawr y byd.

O! obaith pob pechadur prudd,
  O! ffrynd y llariaidd rai,
I bawb a'th gais,
    yr wyt bob dydd

  Yn Dduw i faddeu bai.
Iesu, ein Duw a'n Brenin mawr,
  Ein gwerthfawr drysor ni
Bydd i ni'n oll yn oll yn awr,
  Ac yn y nefoedd fry.

Iesu, mae :: O Iesu,
Yn lloni :: Sy'n lloni
O! melusach :: faint melusach
gais, yr wyt :: geisia, rwyt
Iesu, ein :: O! Iesu'n
cyf. Aberth Moliant 1875
o'r Lladin Jesu dulcis memoria Bernard of Clairvaux 1091-1153
Tonau [MC 8686]:     Dundee / French (The CL Psalmes of David 1615)     Farrant (Richard Farrant c.1530-80)     St Stephen (William Jones 1726-1800)
gwelir:     'Does eisiau'n bod nac ofn     Gwaith griddfan sydd gan bwys euogrwydd du     Meddwl am danat Iesu da     O Iesu gwiw gwyn fyd a brofo'th Ddawn

Hymn No. 10, Jesus, Lover of My Soul -- Iesu, Cyfaill F'enaid Cu

Only the first two verses are used in the LDS Hymnal. There are additional verses in English and Welsh at the website that is my source.

Iesu, cyfaill f'enaid cu,
  I dy fynwes gad im' ffoi.
Tra bo'r dyfroedd o bob tu,
  A'r ym tymhestloedd yn crynhoi.
Cudd fi, O fy Mhrynwr! cudd,
  Nes 'r el heibio'r storom gref;
Yn arweinydd imi bydd
  Nes im' dd'od i dyernas nef.

Noddfa arall gwn nid oes,
  Ond Tydi i'm henaid gwan;
Ti, fu farw ar a groes
  Yw fy nghymorth yn mhob man;
Ynot, O fy Iesu! mae
  Holl ymddiried f'enaid byw:
nerth rho imi i barhau,
  Nes dod adref, at fy Nuw.

cyf. John Hughes 1776-1843
Y Geirgrawn 1796

Tonau:
    Aberystwyth (Joseph Parry 1841-1903)
    Hollingside (John Bacchus Dykes 1823-76)
    St George (G J Elvey 1816-93)
    St Mary Magdalene (<1869)
    Syria (<1876)
    Tichfield (J Richardson)
    an. (S B Marsh) [mmmd|rrr]
gwelir: Iesu cyfaill f'enaid i     cyf. D Tecwyn Evans 1876-1957
1740 Charles Wesley 1707-88.

Come Thou Fount of Every Blessing -- Hwylia 'Nghalon, O! Fy Arglwydd

Astounded am I that this hymn is not in the modern LDS Hymnbook! (Neither could I find it in the LDS Welsh Hymnal of 1852). It is on the LDS music website and it is frequently performed by the Tabernacle Choir. And it's going in here so I can sing along with the Choir! (And if I happen to raise any more Ebenezers in the yard)

(Ebeneser)
Hwylia 'nghalon, O! fy Arglwydd,
  I glodfori rhyfedd ras;
Galw mae dy drugareddau
  Am y gān bereiddia'i blas;
Dysg im ryw nefolaidd fesur
  Genir gan y dyrfa fry;
Boed dy gariad digyfnewid
  Byth yn destun mawl i mi.

Codaf yma f'Ebeneser -
  Gras a'm nerthodd hyd yn hyn;
Yn dy ras gobeithiaf eto
  Am fy nwyn i Seion fryn,
Iesu ddaeth o'r nef i'm ceisio,
  A mi'n crwydro 'mhell o dre;
Ac i'm gwared o'm peryglon
  Rhoes ei fywyd yn fy lle.

cyf. Thomas Rees 1815-55
Tonau [8787D]:
    Austria (Franz Joseph Haydn 1732-1809)
    Nettleton (1813 John Wyeth 1770-1858)

gwelir: Tyred Awdwr gras a rhinwedd

Hymn No. 200, Christ the Lord Is Risen Today! -- Heddiw Cododd Crist o'r bedd!

There are several versions of this Easter Hymn in various languages. These three verses match closely enough to the English version in the LDS Hymnal. While there is no "Where o death is now thy sting?" the Welsh does have the classic lines "Fe ysigodd Had y wraig/Uffern ddu a phen y ddraig" meaning "The Seed of the Woman hath crushed black hell and the dragon's head" which carries the same meaning and we must not leave out the word "ddraig!"

"Haleliwia" is to be obviously inserted after every line in the second and third verses as well.


Dydd yr Arglwydd [The Lord's Day]

Heddiw cododd Crist o'r bedd,
    Haleliwia!
Awdwr ein tragwyddol hedd,
    Haleliwia!
  Wedi prynu ar y pren,
    Haleliwia!
  I feddiannu'r nefoedd wen,
    Haleliwia!

Talodd Ef ein dyled fawr,
Rhyddion ydym ninau'n awr;
  Fe ysigodd Had y wraig,
  Uffern ddu a phen y ddraig.

Fe bwrcasodd Iesu mad,
A'i rinweddol aberth rhad,
  Deyrnas nefoedd deg i ni;
  O! mor ddrud ein
      braint a'n bri.

efel. Benjamin Francis 1734-99

Tôn [7474D / 7777+Alleluias]:
   Easter Hymn / Emyn y Pasg (Lyra Davidica 1708)

Tôn [7777D]:
   Easter Hymn / Emyn y Pasg (Lyra Davidica 1708)



anon. (C14th Latin, English tr. 1708, Lyra Davidica)
v4. 1739 Charles Wesley 1707-88



Tunes:
   Easter Hymn (Lyra Davidica 1708)
   Llanfair (Robert Williams, 1781-1821)
   St John Damascene (1861 Arthur H Brown 1830-1926)

Hymn No. 247, We Love Thy House, O God -- Hoffi'r Wyf Dy Dŷ Brewswylfa

This hymn was found here where there are two more verses in Welsh and four more in the original English version. The important difference, though, is that the LDS version changes the first line from "We love the place, O God" to "We love Thy house, O God." In Welsh, a corresponding change would be to replace "lân" in the first line with "dŷ." The same construct already appears in the last line of the second verse.

Hoffi'r wyf dy lân [dŷ] breswylfa,
  Arglwydd, lle'r addewaist fod;
Nid oes drigfa'n debyg iddi
  Mewn un man o dan y rhod.

Teml yr Arglwydd sydd dŷ gweddi,
  Lle i alw arnat Ti;
Derbyn dithau ein herfyniau
  Pan weddïom yn dy dŷ.
Hoffi'r wyf wir air y bywyd,
  Tystio mae am wlad yr hedd,
Lle mae gwynfyd yn ddi-derfyn
  I'w fwynhau, tu draw i'r bedd.

cyf. Morris Williams (Nicander) 1809-74
Tôn [8787]: St Oswald (J B Dykes 1823-76)

Hymn No. 31, O God, Our Help in Ages Past -- Ein Duw Ein Nerth Drwy'r Oesau Fu

The modern LDS Hymnal does not include two more verses, 4 and 5. And the title is changed from "Our God" to "O God." The Welsh versions can be found here with the additional verses.

Ein Duw, ein nerth
    drwy'r oesau fu,
  Ein gobaith am y ddaw,
Ein cysgod rhag y corwynt cry',
  A'n cartref bythol draw;

Bu trigfa dy orseddfainc Di
  Erioed i'th saint yn nyth;
Dy fraich ei hunan, digon hi;
  Yn noddfa i ninnau byth.

Cyn trefnu'r bryniau
    wrth eu rhyw,
  Cyn cael
      o'r ddaear lun,
O dragwyddoldeb Ti wyt Duw,
  Heb ddiwedd oes, yr un.

Ein Duw, ein nerth
    drwy'r oesau fu,
  Ein gobaith am a ddaw,
Tra pery trallod bydd o'n tu,
  A'n cartref bythol draw.

cyf. R Morris Lewis 1847-1918
Tôn [MC 8686]: St Ann(e) (William Croft 1678-1727)

gwelir:
  Ein Duw ein porth mewn oesoedd maith
  O Dduw ein nerth drwy'r oesoedd fu (cyf. Ifor L Evans)
  O Dduw ein nerth mewn oesoedd gynt (cyf. J C Davies)
  O Dduw ein nerth mewn oesoedd gynt

Hymn No. 90, From All That Dwell Below the Skies -- Gan Bawb Sy'n Trigo Is y Rhod

This hymn found here.

(Molwch Ef, ei holl luoedd.) - [Praise Him, All His Hosts]

Gan bawb sy'n trigo is y rhod,
Boed i'r Creawdwr mawr gael clod;
  I'r hwn ddyoddefodd farwol glwy',
  Drwy'r bydoedd maith
      boed moliant mwy.

A doniau dwyfol, ddynion, dowch,
Caniadau moliant iddo rhowch;
  Yr iachawdwriaeth fawr drwy ras
  Fo'n myn'd ar led y ddaear las.

Ei drugareddau bery byth,
Tragwyddol yw ei air dilyth;
  Datseinir clod
      am farwol glwy',
  Nes codi haul heb fachlud mwy.

I Ffynnon pob daionus rodd
Rhowch fawl, drigolion byd,
    ar goedd;
  Llu'r nef, rhowch glod,
      mewn peraidd gân,
  I'r Tad, a'r Mab,
      a'r Ysbryd Glân.

cyf. Hymnau (Wesleyaidd) 1876
Tôn [MH 8888]: Melcombe (Samuel Webbe 1740-1816)

Hymn No. 159, Now the Day Is Over -- Goleu'r Dydd Sy'n Pallu

Source for this hymn found here. The LDS Hymnal only uses verses 1 and 3.


(Emyn Hwyrol) - [Evening Hymn]

Goleu'r dydd sy'n pallu,
  Wele, daeth y nos;
T'w'llwch sy'n ymdaenu
  Dros y wybren dlos.

Iesu, rho Dy wenau
  I'r lluddedig un,
Fel bo i'w amrantau
  Gau mewn esmwyth hun.

Hymn No. 147, Sweet Is the Work -- Gwaith Hyfryd Iawn a Melys Yw

This hymn was found here.

Salm 92 - Salm ar y dydd Sabbath

(1)
Gwaith hyfryd iawn a melys yw
Moliannu d'enw di, O Dduw;
  Sôn am dy gariad fore glas,
  A'r nos am wirioneddau gras.

(2)
Melys yw dydd y Saboth llon,
Na flined gofal byd fy mron,
  Ond boed fy nghalon i mewn hwyl
  Fel telyn Dafydd ar yr ŵyl.

(3)
Yn Nuw fy nghalon lawenha,
Bendithio'i waith a'i air a wna;
  Mor hardd yw gwaith
      dy ras, O Dduw,
  A'th gyngor di, mor ddwfwn yw.

(4)
Ynfydion dëall hyn ni chânt;
Fel 'sgrybliaid, byw a marw wnânt:
  Maent fel llysieuyn, têg ei wawr,
  Nes chwythech hwy i ddistryw 'lawr.

(5a)
Mae gwir lawenydd ger dy fron
Yn ffrydiau pur i lonni 'mron;
  Ond mi gaf lawn ogoniant fry
  Pan buro gras fy nghalon i.

(5b)
Ond mi gaf ogoneddus ran,
Pan buro gras fy enaid gwan;
  Mai gwir lawenydd uwch y nen,
  Fel olew pur i loni'm pen.

(5c)
Ar fyr caf ogoneddus ran,
Pan bura gras fy enaid gwan;
  Fy holl elynion, cleddir hwy,
  A'm heddwch byth
      ni thorrir mwy.

(5d)
Ar fyr caf ogoneddus ran,
Pan buro gras fy enaid gwan;
  Fy holl elynion, lleddir hwy,
  A'm heddwch ni
      thyr Satan mwy.

(5e)
Ond mi gaf ran o 'goniant frŷ,
Pan buro gras fy nghalon i:
  Mae gwir lawenydd uwch y nen,
  Fel olew pûr i lonni 'mhen.

(6)
Caf wel'd a chlywed yno yngyd
Oll a ddymunais yn y byd;
  A'm henaid a gaiff felus waith
  Yn y tragwyddol fywyd maith.

(7)
Tydi yw'r bythol, fywiol Dduw,
Erioed y bu dy orsedd wiw;
  Sancteiddrwydd pur, a pharch dilyth,
  A weddi i'th Dŷ, O! Arglwydd byth.

(8)
I Dad y trugareddau i gyd
Rhown foliant,
    holl drigolion byd;
  Llu'r nef, moliennwch ef ar gân,
  Y Tad a'r Mab
      a'r Ysbryd Glân.

wirioneddau gras :: wirioneddau'th ras
Melys :: Mor felys
Melys yw dydd y Saboth llon ::
        Dy sanctaidd, hyfryd ŵyl yw hon
        Y Saboth, hyfryd ŵyl yw honfy mron :: mo'm bron
Ond boed fy nghalon :: O! na bai 'nghalon
fy nghalon lawenha :: fy ysbryd lawnhâ
Benthithia'i waith :: Mawrygu ei waith
mor ddwfwn :: mor ddyfned
y bu :: yr oedd
cyf. Dafydd Jones 1711-77
Tonau [MH 8888]:
    Angels' Hymn (Orlando Gibbons 1583-1625)
    Boston (alaw Eglwysig/Gregoraidd / Lowell Mason)
    Bream (<1875)
    Breslau (As Hymnodus Sacer 1625)
    Emyn Foreuol (Thomas Tallis 1505-85)
    Carey ()
    Deep Harmony (Handel Parker 1854-1928)
    Gilead (<1868)
    Hesperus (Henry Baker 1835-1910)
    Leipsic ((G Neumark / J S Bach))
    Llandaf (David Evans 1874-1948)
    Mare Street (<1835)
    Melcombe (Samuel Webbe 1740-1816)
    Moliant (Joseph Parry 1841-1903)
    Ombersley (W H Gladstone 1840-92)
    Rockingham / Communion (Edward Miller 1731-1807)
    Warrington (Ralph Harrison 1748-1810)
    Yr Hen Ganfed (Salmydd Genefa 1551)

gwelir:
    Melys yw dydd y Sabboth llon
    Moliannu'r Arglwydd da iawn yw
    Molianu Duw sydd hyfryd waith

Hymn No. 68, A Mighty Fortress Is Our God -- Ein Cadarn Dŵr Yw Duw a'i Rad

The LDS version has only one verse and emphasizes the power of God rather than the forces of darkness. I took the first two lines from the first verse in Welsh and the rest of the lines from the second verse in Welsh to more closely match the LDS version in English.

The Welsh source was found here.

Ein cadarn dŵr yw Duw a'i rad,
Ein tarian a'n hamddiffyn
Ond drosom mae'r addasaf Un,
A Duw ei hun a'i trefnodd.
Pwy yw? medd calon drist;
Ei enw_yw Iesu Grist,
Tywysog lluoedd nef,
Ac nid oes neb ond Ef
  A lwydda yn yr ymgyrch.

Hymn No. 285, God Moves in Mysterious Ways -- Ffyrdd Duw yn Anchwiliadwy

Source for this hymn here.

Ffyrdd Duw yn anchwiliadwy

Dyfnderoedd anchwiliadwy yw
  Holl ffyrdd y Duw anfeidrol;
A'i ddoeth Ragluniaeth eglurha
  Ei gynghor da'n wastadol.

Nac ofna'r cwmwl, Gristion gwan,
  Sy'n duo rhan o'r awyr;
Dwg iti les, a daw i lawr
  Yn gawod fawr o gysur.

Ymddiried yn Ei râs a'i nerth,
  Drwy'th boen a'th drafferth beunydd;
Mae'n cuddio gwên garedig iawn
  Tu hwnt i gyfiawn gerydd.

Dwg cyn bo hir ei waith i ben,
  Eglura'i ddyben cywir;
Ym ddengys ei ddirgelion mawr
  I'r nef a'r llawr yn eglur.

cyf. Benjamin Francis 1734-99Tonau [MS 8787]:
    Dymuniad (Robert H Williams 1805-76)
    Rhuthyn (<1876)
gwelir:
    Trwy ddirgel ffyrdd mae'r Arglwydd Iôr
    Ymsymud mewn llwybrau dirgelaidd

Hymn No. 152, God Be With You Till We Meet Again -- Duw Fo Gyda CHwi Nes Eto Gwrdd!

Source for this hymn here.

Duw fo gyda chwi nes eto gwrdd!
  Boed i'w gyngor cryf eich cynnal,
  Cadwed chwi fel yn Ei ofal;
Duw fo gyda chwi, fo gyda chwi,
Duw fo gyda chwi nes eto gwrdd.

    Eto gwrdd, eto gwrdd,
      Cwrdd a'r Iesu wrth y bwrdd,
    Eto gwrdd, eto gwrdd,
      Duw fo gyda chwi nes eto gwrdd.

Duw fo gyda chwi nes eto gwrdd!
  Cuddied chwi, â'i aden dyner,
  Doed y manna yn ei amser -
Duw fo gyda chwi, fo gyda chwi,
Duw fo gyda chwi nes eto gwrdd.

Duw fo gyda chwi nes eto gwrdd!
  Pan fo'ch bywyd mewn peryglon
  Yn Ei law y byddo'ch coron -
Duw fo gyda chwi, fo gyda chwi,
Duw fo gyda chwi nes eto gwrdd.

Duw fo gyda chwi nes eto gwrdd!
  Baner cariad uwch eich pennau
  Fo'n tawelu afon angeu -
Duw fo gyda chwi, fo gyda chwi,
Duw fo gyda chwi nes eto gwrdd.

efel. G Pennar Griffiths (Penar) 1860-1918
Tôn [988(9)9+6769]:
    Duw Fo gyda Chwi (David William Lewis 1845-1920)

Hymn No. 119, Come We (Ye) That Love the Lord -- Dewch Chwi, Sy'n Caru Duw

This hymn was found here. The Welsh chorus is left out and the 3rd and 4th verses are translated a little differently.

Dewch chwi, sy'n caru Duw,
  Ac unwch yn y gân;
Ac unwch yn yr anthem fyw,
  O gylch yr orsedd lân.
  
Dewch bawb sy'n caru Duw,
  I ganu iddo'i gyd;
Dadseinied clod
    ei foliant gwiw,
  Dros bedwar ban y byd.

Mae gweled bryniau'r wlad,
  A golygfeydd mor wiw:
Yn llanw'r enaid a mwynhad,
  Wrth deithio'i ddinas Duw.

Gan hyny llawenhaed,
  Ei etifeddion Ef,
Mae daear Duw o dan ein traed,
  Wrth deithio tua'r nef.

cyf. Watkin Hezekiah Williams (Watcyn Wyn) 1844-1905
Tôn [668(8)6(6)+6888]:
    Ymdeithio i Sion / Marching to Zion
        (1867 Robert Lowry 1826-99)

gwelir:
    Chwy-chwi sy'n caru'r Arglwydd dewch
    Chwi oll sy'n caru'r Arglwydd dewch
    Dewch chwi sy'n caru Duw (A llawenhewch yn awr)
    Y Duw sy'n llywydd fry

Hymn No. 163, Lord, Dismiss Us with Thy Blessing -- 273. Dan Dy Fendith Wrth Ymadael (Gweddi wrth ymadael)

Source here.

(Gweddi wrth ymadael)

Dan dy fendith wrth ymadael
  Y dymunem, Arglwydd, fod;
Llanw'n calon ni â'th gariad
  A'n geneuau ni â'th glod:
    Dy dangnefedd
  Dyro inni yn barhaus.

Am Efengyl gras a'i breintiau
  Rhoddwn ddiolch byth i ti;
Boed i waith dy Ysbryd Sanctaidd
  Lwyddo fwyfwy ynom ni;
    I'r gwirionedd
  Gwna ni'n ffyddlon tra bôm byw.

Melys fydd y fwyn gyfeillach
  Yn y pur ogoniant maith;
Melys fydd cyd-ganu'r anthem
  O un galon, a'r un iaith;
    Melys meddwl
  Na fydd raid ymadael mwy.
ni â'th gariad :: â dy gariad
ni â'th glod :: â dy glod
1-2: cyf. David Saunders 1769-1840
3 : cyf. William Griffiths 1777-1825


Tonau [8787447]:
    Bonn (< 1875)
    Bridport (J A Lloyd 1815-84)
    Caersalem (Robert Edwards 1797-1862)
    Dan Dy Fendith (Caradog Roberts 1878-1935)
    Gosper / Vesper (alaw Rwsiaidd)
    Lewes (John Randall 1717-99)
    Sicilian Mariners (alaw Italaidd/Sisiliaidd)

Hymn No. 241, Count Your Blessings (When upon Life's Billows) -- Cifrif y Bendithion (Pan Wyt Ar Fôr Bywyd)

Cyfrif y Bendithion

Pan wyt ar fôr bywyd
    ac o don i don,
Pan fo ofni suddo
    yn tristáu dy fron,
  Cyfrif y bendithion,
      bob yn un ac un,
  Synnu wnei at gymaint
      a wnaeth Duw i ddyn.

    Cyfrif y bendithion,
        un ac un,
    Cyfrif gymaint
        a wnaeth Duw i ddyn,
    Cyfrif y bendithion,
        cyfrir un ac un,
    Synnu wnei at gymaint
        a wnaeth Duw i ddyn.

A yw baich gofalon bywyd,
    ddaw i'th ran,
Gyda phwysau'r groes
    yn llethu d'ysbryd gwan?
  Cyfrif y bendithion
      a rydd nerth i'r daith;
  Yn lle cwyno, canu mwyach
      fydd dy waith.

Os oes rhai yn meddu aur
    a thir y llawr,
Cofia fod i tithau
    etifeddiaeth fawr;
  Cyfrif y bendithion,
      maent uwch gwerth y byd,
  Eiddot Iesu'n ffrind,
      a'r nef yn gartref clyd.

Felly yn y rhyfel,
    er mor danllyd yw,
Paid a digalonni -
    drosot mae dy Dduw;
  Cyfrif y bendithion,
      mae ei engyl ef
  Yn dy wylio nes it
      gyrraedd fry i'r nef.

cyf. T G Thomas 1859-1937, Tre-boeth, Abertawe.
Tôn:
    Cyfrif y Bendithion / Count your Blessings
        (Edwin O Excell 1850-1921)

Hymn No. 67, Glory to God on High -- Cyduned Nef a LLawr (I Foli'n Harglwydd Mawr)

Not in the 1852 Welsh Hymnal, but found at this site.

Cyduned nef a llawr
I foli'n Harglwydd mawr
  Mewn hyfryd hoen;
Clodforwn, tra bo chwyth,
Ei ras a'i hedd di-lyth,
Ac uchel ganwn byth:
  "Teilwng yw'r Oen."

Tra dyrchaif saint eu cân
O gylch yr orsedd lân,
  Uwch braw a phoen,
O boed i ninnau nawr,
Drigolion daear lawr,
Ddyrchafu'r enw mawr:
  "Teilwng yw'r Oen."

Er goddef cur a loes,
Tra yma'n cario'r groes,
  Mewn byd o boen;
Rhown deyrnged hyd y nef
O foliant iddo Ef;
Dadseiniwn âg un llef -
  "Teilwng yw'r Oen."

Molianned pawb ynghyd
Am waith ei gariad drud,
  Heb dewi a son;
Anrhydedd, parch a bri
Fo i'n Gwaredwr ni
Dros oesoedd maith di-ri':
  "Teilwng yw'r Oen!"

bo chwyth :: fo chwŷth
dyrchaif saint :: dyrcha'r saint

efel. Isaac Clarke 1824-75

Tonau [664.6664]:
    Gwalia (alaw Gymreig)
    Malvern (H J Gauntlett 1805-76)
    St Austin (F A G Ouseley 1825-89)
    Trinity (Felice de Giardini 1716-96)