Dan Jones preaching in Wales -- Mae Dan Jones yn pregathu yng Nghymru
LDS HYMNAL ENGLISH TO WELSH HYMN
HYMNAU SAESNEG I'R GYMRAEG

1. The Morning Breaks -- 1. Y Boreu DDaeth
10. Jesus, Lover of My Soul -- Iesu, Cyfaill F'enaid Cu

TRANSLATIONS FROM THE 1852 WELSH HYMNAL INTO ENGLISH


Extras:

Hymn No. 147, Sweet Is the Work -- Gwaith Hyfryd Iawn a Melys Yw

This hymn was found here.

Salm 92 - Salm ar y dydd Sabbath

(1)
Gwaith hyfryd iawn a melys yw
Moliannu d'enw di, O Dduw;
  Sôn am dy gariad fore glas,
  A'r nos am wirioneddau gras.

(2)
Melys yw dydd y Saboth llon,
Na flined gofal byd fy mron,
  Ond boed fy nghalon i mewn hwyl
  Fel telyn Dafydd ar yr ŵyl.

(3)
Yn Nuw fy nghalon lawenha,
Bendithio'i waith a'i air a wna;
  Mor hardd yw gwaith
      dy ras, O Dduw,
  A'th gyngor di, mor ddwfwn yw.

(4)
Ynfydion dëall hyn ni chânt;
Fel 'sgrybliaid, byw a marw wnânt:
  Maent fel llysieuyn, têg ei wawr,
  Nes chwythech hwy i ddistryw 'lawr.

(5a)
Mae gwir lawenydd ger dy fron
Yn ffrydiau pur i lonni 'mron;
  Ond mi gaf lawn ogoniant fry
  Pan buro gras fy nghalon i.

(5b)
Ond mi gaf ogoneddus ran,
Pan buro gras fy enaid gwan;
  Mai gwir lawenydd uwch y nen,
  Fel olew pur i loni'm pen.

(5c)
Ar fyr caf ogoneddus ran,
Pan bura gras fy enaid gwan;
  Fy holl elynion, cleddir hwy,
  A'm heddwch byth
      ni thorrir mwy.

(5d)
Ar fyr caf ogoneddus ran,
Pan buro gras fy enaid gwan;
  Fy holl elynion, lleddir hwy,
  A'm heddwch ni
      thyr Satan mwy.

(5e)
Ond mi gaf ran o 'goniant frŷ,
Pan buro gras fy nghalon i:
  Mae gwir lawenydd uwch y nen,
  Fel olew pûr i lonni 'mhen.

(6)
Caf wel'd a chlywed yno yngyd
Oll a ddymunais yn y byd;
  A'm henaid a gaiff felus waith
  Yn y tragwyddol fywyd maith.

(7)
Tydi yw'r bythol, fywiol Dduw,
Erioed y bu dy orsedd wiw;
  Sancteiddrwydd pur, a pharch dilyth,
  A weddi i'th Dŷ, O! Arglwydd byth.

(8)
I Dad y trugareddau i gyd
Rhown foliant,
    holl drigolion byd;
  Llu'r nef, moliennwch ef ar gân,
  Y Tad a'r Mab
      a'r Ysbryd Glân.

wirioneddau gras :: wirioneddau'th ras
Melys :: Mor felys
Melys yw dydd y Saboth llon ::
        Dy sanctaidd, hyfryd ŵyl yw hon
        Y Saboth, hyfryd ŵyl yw honfy mron :: mo'm bron
Ond boed fy nghalon :: O! na bai 'nghalon
fy nghalon lawenha :: fy ysbryd lawnhâ
Benthithia'i waith :: Mawrygu ei waith
mor ddwfwn :: mor ddyfned
y bu :: yr oedd
cyf. Dafydd Jones 1711-77
Tonau [MH 8888]:
    Angels' Hymn (Orlando Gibbons 1583-1625)
    Boston (alaw Eglwysig/Gregoraidd / Lowell Mason)
    Bream (<1875)
    Breslau (As Hymnodus Sacer 1625)
    Emyn Foreuol (Thomas Tallis 1505-85)
    Carey ()
    Deep Harmony (Handel Parker 1854-1928)
    Gilead (<1868)
    Hesperus (Henry Baker 1835-1910)
    Leipsic ((G Neumark / J S Bach))
    Llandaf (David Evans 1874-1948)
    Mare Street (<1835)
    Melcombe (Samuel Webbe 1740-1816)
    Moliant (Joseph Parry 1841-1903)
    Ombersley (W H Gladstone 1840-92)
    Rockingham / Communion (Edward Miller 1731-1807)
    Warrington (Ralph Harrison 1748-1810)
    Yr Hen Ganfed (Salmydd Genefa 1551)

gwelir:
    Melys yw dydd y Sabboth llon
    Moliannu'r Arglwydd da iawn yw
    Molianu Duw sydd hyfryd waith

No comments:

Post a Comment

These comments are moderated. Please be respectful. Commercial solicitations and offensive comments are sent to spam and will be reported.