Dan Jones preaching in Wales -- Mae Dan Jones yn pregathu yng Nghymru
LDS HYMNAL ENGLISH TO WELSH HYMN
HYMNAU SAESNEG I'R GYMRAEG

1. The Morning Breaks -- 1. Y Boreu DDaeth
10. Jesus, Lover of My Soul -- Iesu, Cyfaill F'enaid Cu

TRANSLATIONS FROM THE 1852 WELSH HYMNAL INTO ENGLISH


Extras:

Hymn No. 207, It Came Upon a Midnight Clear -- Ar Hanner Nos yn Glir y Daeth

From this website.

Ar hanner nos yn glir y daeth
  Y gân nefolaidd gynt;
I daro'u tannau plygu wnaeth
  Angylion ar eu hynt:
"Hedd trwy y byd, ewyllys da
  Tirionaf Frenin nef" -
Y ddaear mewn distawrwydd dwys
  Wrandawai'r hyfryd lef.

Trwy byrth y nef
    daw'r rhain o hyd
  Ar adain hedd i lawr,
A nofia'u mawl
    o'r nefol fyd
  Uwch holl flinderau'r llawr:
I lawer dyffryn galar prudd
  Ymostwng engyl glân,
Ac uwch na'r holl
    derfysgoedd sydd
  Y clywir nefol gân.

Dan bwys ei bai
    y ddaear brudd
  Riddfanna'n ddwys yn awr;
Dan fawl angylion
    gormes sydd
  Yn ymlid oesau'r llawr;
Y dyn wna gam a dyn, ni chlyw
  Ganiadau'r engyl glân;
O! gwrando'n awr, er gadael Duw,
  A chlyw y nefol gân.

O! D'wysog hedd, adwaenost Ti
  Boen, a thrueni'r llawr;
A gwyddost am ein gofid ni,
  A'n blinder lawer awr:
Gwasgara ofnau'r
    byd a'r bedd,
  Sy'n cau ein llwybrau'n lân;
A dyro i'r lluddedig hedd
  I wrando'r nefol gân.

cyf. W Evans Jones (Penllyn) 1854–1938
Tonau [8686D]:
    It Came upon the Midnight Clear / Carol
        (Richard S Willis 1819-1900)
    Noel (Hen Garol Seisnig)

Tôn [8686D+8686]:
    Seinier cyrn (Dafydd Iwan 1943- )
        (i gytgan gan Arthur D Jones)

No comments:

Post a Comment

These comments are moderated. Please be respectful. Commercial solicitations and offensive comments are sent to spam and will be reported.