Craig yr Oesoedd, Cuddia Fi,
Graig yr Oesoedd! cuddia fi,
Er fy mwyn yr holltwyd di;
Boed i rin y dŵr a'r gwaed
Gynt o'th ystlys friw a gaed
Fy nglanhau o farwol rym
Ac euogrwydd pechod llym.
Ni all gwaith fy nwylo i
Lenwi hawl dy gyfraith di;
Pe bai im sêl yn dân di-lyth
A phe llifai 'nagrau byth,
Iawn ni wnaent
i gyd yn un:
Ti all achub, ti dy hun.
Dof yn waglaw at dy groes,
Glynaf wrthi drwy fy oes;
Noeth, am wisg dof atat ti;
Llesg, am ras dyrchafaf gri;
Brwnt, i'r ffynnon dof a'm clwyf;
Golch fi, Geidwad, marw 'rwyf.
Tra bwy'n tynnu f'anadl frau,
Pan fo'r llygaid hyn yn cau,
Pan fwy'n hedfan uwch y llawr,
Ac yng ngŵydd dy orsedd fawr,
Graig a holltwyd erof fi,
Gad im lechu ynot ti.
- - - - -
Er fy mwyn yr holltwyd Di:
Boed i rîn y dŵr a'r gwaed,
O Dy ystlys friw a gaed,
Fy nglanhau o farwol rym
Ac euogrwydd pechod llym.
Nid fy holl weithredoedd i
All gyflawni'th gyfraith Di,
Pe b'ai'm sêl yn dân di-lŷth,
A phe llifai'm dagrau byth,
Iawn ni wnai
yr oll yn un, -
Ti raid achub, Ti Dy Hun.
Dôf yn waglaw at Dy groes,
Glynaf wrthi trwy fy oes;
Noeth, am wisg dôf atat Ti;
Llesg, am râs dyrchafaf gri;
Brwnt, i'r ffyauu dôf â'm clwyf;
Golch fi Geidwad, marw'r wyf.
Tra'n anadlu'm heinioes frau,
Pan b'o'm llygaid llesg yn cau,
Pan b'wy'n hedfan uwch y llawr,
Pan yn ngŵydd Dy orsedd fawr,
Graig yr Oesoedd! gâd i mi
Lwyr ymguddio ynot Ti.
cyf. Owen Griffith Owen (Alafon) 1847-1916Tonau:
Petra/Redhead (Richard Redhead 1820-1901)
Pressburg
(1714 Freylinghausen's Gesangbuch)
Salm 135 (1562 Ministres de l'Éternel)
(Salmydd Frengig)
Wells (Dmitri Bortnianski 1751-1825)
gwelir: Craig yr oesoedd ynot ti
Craig yr Oesoedd ga'dd ei hollti
No comments:
Post a Comment
These comments are moderated. Please be respectful. Commercial solicitations and offensive comments are sent to spam and will be reported.