This hymn,
found here, has an additional verse that is not in the modern, LDS Hymnal about the church never changing, built on the rock, etc. Also note that the music is by Sir Arthur Sullivan of Gilbert and Sullivan fame.
(Cân yr Eglwys Filwriaethus)
[Song of the Church Militant]
Rhagom, filwyr Iesu
Awn i'r gad yn hy!
Gwelwn groes ein Prynwr
Hon yw'n cymorth cry';
Crist, frenhinol Arglwydd,
Yw'n Harweinydd mad;
Chwifio mae ei faner,
Geilw ni i'r gad.
Rhagom, filwyr Iesu!
Awn i'r gad yn hy!
Gwelwn groes ein Prynwr
Hon yw'n cymorth cry'.
Arwydd buddugoliaeth,
Wna i Satan ffoi;
Filwyr ffyddlawn Iesu,
Dowch yn ddiymdroi:
Seiliau uffern grynant
Gan y nerthol floedd,
Frodyr, bloeddiwch eto,
Molwch Ef ar goedd.
Fel rhyw fyddin arfog
Symud, Eglwys Dduw!
Frodyr, lle y troediwn,
Llwybr y seintiau yw;
Nid ym ni'n rhanedig,
Ond un corff di-goll,
Un mewn ffydd a gobiath,
Un mewn cariad oll.
Dowch gan hynny, bobloedd
Dyma'r dedwydd lu;
Y fuddugol anthem
Seiniwch gyda ni:
Moliant ac anrhydedd
Byth i'r Iesu glan;
Dynion ac angylion
Unant yn y gan!
hy' :: hyf
cry' :: cryf
1865 Sabine Baring-Gould 1834-1924
Cyf. Lewis Edwards 1809-1887
Tonau [6565T]:
? (J H Roberts (Pencerdd Gwynedd) 1848-1924)
Caledfryn / Vexillum (Henry Smart 1813-79)
St Gertrude (Arthur Sullivan 1842-1900)
No comments:
Post a Comment
These comments are moderated. Please be respectful. Commercial solicitations and offensive comments are sent to spam and will be reported.