Dan Jones preaching in Wales -- Mae Dan Jones yn pregathu yng Nghymru
LDS HYMNAL ENGLISH TO WELSH HYMN
HYMNAU SAESNEG I'R GYMRAEG

1. The Morning Breaks -- 1. Y Boreu DDaeth
10. Jesus, Lover of My Soul -- Iesu, Cyfaill F'enaid Cu

TRANSLATIONS FROM THE 1852 WELSH HYMNAL INTO ENGLISH


Extras:

Hymn No. 44, Beautiful Zion, Built Above -- O! Brydferth Seion, Godwyd Fry

Source for this hymn, here.

O! brydferth Seion, godwyd fry,
O! brydferth ddinas garaf fi;
  Hardd yw ei phyrth o berlau yw,
  Hardd yw ei theml a'i haul yw Duw!
Ef a fu farw ar Galfari,
Egyr y perlog byrth i mi.

    Seion, Seion, hawddgar Seion;
      O! brydferth Seion, Dinas wen ein Duw!
    Seion, Seion, hawddgar Seion;
      O! brydferth Seion, Dinas wen ein Duw!

Prydferth yw'r nef, bob bro a bryn,
Prydferth angelion, yn eu gwyn;
  Hyfryd ganiadau seinir fry,
  Peraidd delynau sydd i'r llu,
Yno caf foli'm Crist a'i waed -
Yno'r addolaf wrth ei draed.

Prydferth goronau ar bob pen,
Prydferth yw'r palmwydd hyd y nen;
  Prydferth yw gwisgoedd meibion Duw,
  Prydferth yw pawb ânt yno'i fyw.
Yno 'rwy'n myn'd i foli'm Nêr,
Yno caf heddwch hir a phêr.

Prydferth yw gorsedd Iesu'm Duw,
Per yw caniadau engyl gwiw,
  Hyfryd yw gorphwys hwnt i'r bedd;
  Hyfryd yw cartref bythol hedd.
Yno caf wel'd fy Ngheidwad cu,
Tyred i'm cartref gyda mi.

cyf. John Jenkins (Gwili) 1872-1936Tôn [888888+8.10.8.10]: Beautiful Zion (1850 Thomas J Cook)
1850 George Gill 1820-80
   

No comments:

Post a Comment

These comments are moderated. Please be respectful. Commercial solicitations and offensive comments are sent to spam and will be reported.