Hoffi'r wyf dy lân [dŷ] breswylfa,
Arglwydd, lle'r addewaist fod;
Nid oes drigfa'n debyg iddi
Mewn un man o dan y rhod.
Teml yr Arglwydd sydd dŷ gweddi,
Lle i alw arnat Ti;
Derbyn dithau ein herfyniau
Pan weddïom yn dy dŷ.
Hoffi'r wyf wir air y bywyd,
Tystio mae am wlad yr hedd,
Lle mae gwynfyd yn ddi-derfyn
I'w fwynhau, tu draw i'r bedd.
cyf. Morris Williams (Nicander) 1809-74
Tôn [8787]: St Oswald (J B Dykes 1823-76)
No comments:
Post a Comment
These comments are moderated. Please be respectful. Commercial solicitations and offensive comments are sent to spam and will be reported.