Jesu dulcis memoria
Meddwl am danat Iesu da,
Sy'n felus yr awr hon;
Ond mil melusach
fydd Dy wel'd,
A gorphwys ger Dy fron.
Ni ddichon cân, ni ddichon sain,
Na chalon byth gael hyd
I enw gwell nag Iesu Grist,
Gwaredwr mawr y byd.
Gobaith pob calon ysig, friw,
Llawenydd, llariaidd rai;
i'r sawl a gwymp mor dyner wyt,
A dan, i faddeu'n bai.
Ond beth i'r rhai a'th gawsant Di? -
Pwy ddichon ddyweyd yn llwyr
Am gariad Iesu, Pa beth yw?
Neb ond dy saint a ŵr.
Iesu, ein hunig gân wyt Ti,
A'n huchel gamp o fri;
Ein holl ogoniant wyt yn awr,
A byth a fyddi Di.
cyf. Thomas Jones Humphreys 1841-1934o'r LladinJesu dulcis memoria Bernard of Clairvaux 1091-1153 [Mesur: MC 8686] gwelir: 'Does eisiau'n bod nac ofn Gwaith griddfan sydd gan bwys euogrwydd du Iesu mae meddwl am dy hedd O Iesu meddwl am Dy hedd O Iesu gwiw gwyn fyd a brofo'th Ddawn |
No comments:
Post a Comment
These comments are moderated. Please be respectful. Commercial solicitations and offensive comments are sent to spam and will be reported.