Dan Jones preaching in Wales -- Mae Dan Jones yn pregathu yng Nghymru
LDS HYMNAL ENGLISH TO WELSH HYMN
HYMNAU SAESNEG I'R GYMRAEG

1. The Morning Breaks -- 1. Y Boreu DDaeth
10. Jesus, Lover of My Soul -- Iesu, Cyfaill F'enaid Cu

TRANSLATIONS FROM THE 1852 WELSH HYMNAL INTO ENGLISH


Extras:

Hymn No. 285, God Moves in Mysterious Ways -- Ffyrdd Duw yn Anchwiliadwy

Source for this hymn here.

Ffyrdd Duw yn anchwiliadwy

Dyfnderoedd anchwiliadwy yw
  Holl ffyrdd y Duw anfeidrol;
A'i ddoeth Ragluniaeth eglurha
  Ei gynghor da'n wastadol.

Nac ofna'r cwmwl, Gristion gwan,
  Sy'n duo rhan o'r awyr;
Dwg iti les, a daw i lawr
  Yn gawod fawr o gysur.

Ymddiried yn Ei râs a'i nerth,
  Drwy'th boen a'th drafferth beunydd;
Mae'n cuddio gwên garedig iawn
  Tu hwnt i gyfiawn gerydd.

Dwg cyn bo hir ei waith i ben,
  Eglura'i ddyben cywir;
Ym ddengys ei ddirgelion mawr
  I'r nef a'r llawr yn eglur.

cyf. Benjamin Francis 1734-99Tonau [MS 8787]:
    Dymuniad (Robert H Williams 1805-76)
    Rhuthyn (<1876)
gwelir:
    Trwy ddirgel ffyrdd mae'r Arglwydd Iôr
    Ymsymud mewn llwybrau dirgelaidd

No comments:

Post a Comment

These comments are moderated. Please be respectful. Commercial solicitations and offensive comments are sent to spam and will be reported.