Dan Jones preaching in Wales -- Mae Dan Jones yn pregathu yng Nghymru
LDS HYMNAL ENGLISH TO WELSH HYMN
HYMNAU SAESNEG I'R GYMRAEG

1. The Morning Breaks -- 1. Y Boreu DDaeth
10. Jesus, Lover of My Soul -- Iesu, Cyfaill F'enaid Cu

TRANSLATIONS FROM THE 1852 WELSH HYMNAL INTO ENGLISH


Extras:

Hymn No. 92, For the Beauty of the Earth -- Am Brydferthwch Daear Fyd

This hymn wasn't written until 1864, so it didn't make the LDS Welsh hymnal of 1852. I found this version here.

Am Brydferthwch Daear Fyd

Am brydferthwch daear fyd,
  Am brydferthwch wybren dlos,
Am y cariad er ein crud
  Sydd o'n amgylch ddydd a nos:
    Nefol Dad, yn awr nyni
    Roddwn aberth mawl i ti.

Am ein holl berthnasau cu,
  Plant, rhieni, chwaer a brawd;
Ceraint yma, ceraint fry;
  Am bob meddwl tyner gawd;

Am dy rhoddion perffaith, rhad
  I'r dynoliaeth, codwn lef -
Grasau dynol a dwyfol had,
  Blodau'r llawr a blagur nef -

Am yr Eglwys gwyd o hyd
  Ei dihalog ddwylaw fry,
Gan offrymu trwy y byd
  Aberth pur ei chariad cry';
    Nefol Dad, yn awr nyni
    Roddwn aberth mawl i ti.

Thomas Jones 1850-1937
Tôn [77.77.77]: Dix (Conrad Kocher / W H Monk)

gwelir: Am brydferthwch daear lawr

Hymn No. 242, Praise God from Whom All Blessings Flow -- Am Ei Fendithion Gwerthfawr Drud

This hymn does not appear to be in the 1852 LDS Welsh Hymnal. I found a Welsh version here

(Mawl-gân)
Am ei fendithion
    gwerthfawr drud
Molianner Iôn
    drwy'r eang fyd;
  Boed moliant fry mewn nefol gân
  I'r Tad, a'r Mab,
      a'r Ysbryd Glân.

cyf. D Arthen Evans 1878-1936
Tôn [MH 8888]:
    Yr Hen Ganfed (Sallwyr Genefa 1551)

gwelir:
    I Dad y trugareddau i gyd
    Moliennwch Dduw sy'n rho'i pob dawn


Hymn No. 83, Guide Us, O Thou Great Jehovah -- Cwm Rhondda (Arglwydd, Arwain Trw'r Anialwch)

Not so strangely because it wasn't written until 1905, I haven't found the great Welsh Hymn, Cwm Rhondda or Guide Us, O Thou Great Jehovah, in the LDS Welsh Hymnal of 1852. Here it is in two versions:

Arglwydd, Arwain Trwy'r Anialwch
Arglwydd, arwain trwy'r anialwch,
  Fi, bererin gwael ei wedd,
Nad oes ynof nerth na bywyd
  Fel yn gorwedd yn y bedd:
    Hollalluog,
  Ydyw'r Un a'm cwyd i'r lan.

Os agori im' dy fynwes,
  I gael gwel'd y cariad llawn,
Lifodd allan fel y moroedd 
  Ar Galfaria un prydnawn:
    Ti gai'r cwbl,
  Roddaist imi yn fy rhan.

Myfi grwydrais hir flynyddau,
  Ac heb weled goleu'r wawr,
Anobeithiais heb dy allu
  Dd'od o'r anial dir yn awr!
    Dere dy hunan,
  Dyna'r pryd y dof i maes.

Colofn dân rho'r nos i'm harwain,
  A rho'r golofn niwl y dydd;
Dal fi pan bwy'n teithio'r manau
  Geirwon yn fy ffordd y sydd:
    Rho i mi fanna,
  Fel na bwyf yn llwfwrhau.

Agor y ffynhonnau melus
  Sydd yn tarddu o'r graig i maes;
'R hyd yr anial mawr canlyned
  Afon iachawdwriaeth gras:
    Rho i mi hynny,
  Dim i mi ond dy fywnhau.

Pan bwy'n myned trwy'r Iorddonen
  Angeu creulon yn ei rym,
Ti 'est trwyddi gynt dy hunan,
  P'am yr ofnaf bellach ddim?
    Buddugoliaeth,
  Gwna imi waeddi yn y llif!

Ymddiriedaf yn dy allu,
  Mawr yw'r gwaith a wnest erioed:
Ti ge'st angau, ti gest uffern,
  Ti ge'st Satan dan dy droed:
    Pen Calfaria,
  Nac aed hwnw byth o'm côf.
trwy'r anialwch :: drwy'r anialwch
Colofn dân rho'r nos ::           
            Dyro y Golofn dân
            Nos, rho'r golofn dân
            Rho'r golofn dân y nos
A rho'r golofn niwl :: A'r cwmwl niwl o'mlaen
Rho i mi :: Rho im'
na bwyf yn llwfwrhau ::           
            na b'wyf i lwyfrhau
            na bo im' lwywrhau
Dim i mi ond :: Fel y gallwyf
Gwna imi :: Gwna im'
iachawdwriaeth :: iechydwriaeth
Ymddiriedaf :: Mi ymddiriedaf
a wnest erioed :: a wne'st ti erioed
            - - - - -

Arglwydd, arwain trwy'r anialwch,
  Fi bererin gwael ei wedd,
Dyro ynof nerth a rhinwedd
  Nes im' orwedd yn fy medd:
    Hollalluog,
  Dal i fyny f'enaid gwan.

Agor y ffynhonnau melys
  Sydd o'r graig yn tarddu maes;
Hyd yr anial mawr canlyned
  Afon iachawdwriaeth gras:
    Gâd im' yfed,
  Byth o ffrydiau bywiol hon.

Rho'r golofn dân y nos,
  Dyro gwmwl niwl y dydd;
Dal fi pan f'wy'n teithio'r manau
  Geirwon yn fy ffordd y sydd:
    Cadw ngolwg,
  Beunydd tua'r hyfryd wlad.

1745 William Williams 1717-91
Tonau [878747]:
    Caersalem (Robert Edwards 1796-1862)
    Calfari (Samuel Stanley 1767-1822)
    Capel y Ddôl (J D Jones 1827-70)
    Catherine (David Roberts [Alawydd] 1820-72)
    Clement (hen alaw eglwysig)
    Cwm Rhondda (1907 John Hughes 1873-1932)
    Catherine (David Roberts [Alawydd] 1820-72)
    Dix (William H Monk 1823-89)
    Erromanga (<1875)
    Hyder (Richard Ellis 1775-1855)
    Llan Baglan (D Afan Thomas 1881-1928)
    Llanilar (alaw Gymreig)
    Pilgrimage (George J Elvey 1816-93)
    St Peter (alaw Eglwysig)
    Tamworth (<1835)

gwelir:    Agor y ffynonau melus
    Arglwydd agor im' dy fynwes
    Ymddiriedaf ynot Iesu
___________

The Translation from Brigham Young University Resources for Welsh Learners follows:

Cwm RhonddaGuide Us, O Thou Great Jehovah
Wele’n sefyll rhwng y myrtwyddGuide us, O thou great Je-ho-vah,
Wrthddrych teilwng o fy mryd;Guide us to the prom-mised land.
Er o’r braidd ‘rwy’n Ei adnabodWe are weak, but thou art a-ble;
Ef uwchlaw gwrthrychau’r gyd:Hold us with thy pow’r-ful hand.
Henffych fore! Henffych fore!Ho-ly Spir-it, Ho-ly Spir-it,
Caf ei weled fel y mae.Feed us till the Sav-ior comes, Savior comes,
Caf ei weled fel y mae.Feed us till the Sav-ior comes.
Agor y ffynhonnau melusO-pen Jesus, Zion’s fountains;
‘N tarddui maes o’r Graig y syddWhence the healing streams do flow;
Colofn dan rho’r nos i’m harwainLet the fi-ery, cloud-y pil-lar
A rho golofn niwl y dyddGuard us to this ho-ly home.
Rho i mi fanna, Rho i mi fannaGreat Redeemer, Great Re-deem-er,
Fel na bwyf yn llwfwrhauFeed us till the Sa-vior comes, Savior comes,
Fel na bwyf yn llfwrhau.Feed us till the Sa-vior comes.
Pan yn troedio glan IorddonenWhen the earth be-gins to trem-ble,
Par i’m hafnau suddo i gydBid our fear-ful thoughts be still;
Dwg fi drwy y tonnau geirwonWhen thy judg-ments spread de-struc-tion,
Draw i Gannan-gartref clyd:Keep us safe on Zi-on’s hill,
Mawl diderfyn, Mawl diderfynSing-ing prais-es, Sing-ing prais-es,
Fydd i’th enw byth am hynSongs of glo-ry un-to the, un-to thee,
Fydd i’th enw byth am hyn.Songs of glo-ry un-to thee.

Hymn No. 111, Rock of Ages -- Craig yr Oesoedd

Rock of Ages does not seem to appear in the 1852 LDS Hymnal. However, I found two Welsh versions at this site.

Craig yr Oesoedd, Cuddia Fi,
Graig yr Oesoedd! cuddia fi,
Er fy mwyn yr holltwyd di;
  Boed i rin y dŵr a'r gwaed
  Gynt o'th ystlys friw a gaed
Fy nglanhau o farwol rym
Ac euogrwydd pechod llym.

Ni all gwaith fy nwylo i
Lenwi hawl dy gyfraith di;
  Pe bai im sêl yn dân di-lyth
  A phe llifai 'nagrau byth,
Iawn ni wnaent
    i gyd yn un:
Ti all achub, ti dy hun.

Dof yn waglaw at dy groes,
Glynaf wrthi drwy fy oes;
  Noeth, am wisg dof atat ti;
  Llesg, am ras dyrchafaf gri;
Brwnt, i'r ffynnon dof a'm clwyf;
Golch fi, Geidwad, marw 'rwyf.

Tra bwy'n tynnu f'anadl frau,
Pan fo'r llygaid hyn yn cau,
  Pan fwy'n hedfan uwch y llawr,
  Ac yng ngŵydd dy orsedd fawr,
Graig a holltwyd erof fi,
Gad im lechu ynot ti.

              - - - - -


Er fy mwyn yr holltwyd Di:
  Boed i rîn y dŵr a'r gwaed,
  O Dy ystlys friw a gaed,
Fy nglanhau o farwol rym
Ac euogrwydd pechod llym.

Nid fy holl weithredoedd i
All gyflawni'th gyfraith Di,
  Pe b'ai'm sêl yn dân di-lŷth,
  A phe llifai'm dagrau byth,
Iawn ni wnai
    yr oll yn un, -
Ti raid achub, Ti Dy Hun.

Dôf yn waglaw at Dy groes,
Glynaf wrthi trwy fy oes;
  Noeth, am wisg dôf atat Ti;
  Llesg, am râs dyrchafaf gri;
Brwnt, i'r ffyauu dôf â'm clwyf;
Golch fi Geidwad, marw'r wyf.

Tra'n anadlu'm heinioes frau,
Pan b'o'm llygaid llesg yn cau,
  Pan b'wy'n hedfan uwch y llawr,
  Pan yn ngŵydd Dy orsedd fawr,
Graig yr Oesoedd! gâd i mi
Lwyr ymguddio ynot Ti.

cyf. Owen Griffith Owen (Alafon) 1847-1916
Tonau:
    Petra/Redhead (Richard Redhead 1820-1901)
    Pressburg
        (1714 Freylinghausen's Gesangbuch)
    Salm 135 (1562 Ministres de l'Éternel)
        (Salmydd Frengig)
    Wells (Dmitri Bortnianski 1751-1825)

gwelir:    Craig yr oesoedd ynot ti
    Craig yr Oesoedd ga'dd ei hollti

Hymn No. 207, It Came Upon a Midnight Clear -- Ar Hanner Nos yn Glir y Daeth

From this website.

Ar hanner nos yn glir y daeth
  Y gân nefolaidd gynt;
I daro'u tannau plygu wnaeth
  Angylion ar eu hynt:
"Hedd trwy y byd, ewyllys da
  Tirionaf Frenin nef" -
Y ddaear mewn distawrwydd dwys
  Wrandawai'r hyfryd lef.

Trwy byrth y nef
    daw'r rhain o hyd
  Ar adain hedd i lawr,
A nofia'u mawl
    o'r nefol fyd
  Uwch holl flinderau'r llawr:
I lawer dyffryn galar prudd
  Ymostwng engyl glân,
Ac uwch na'r holl
    derfysgoedd sydd
  Y clywir nefol gân.

Dan bwys ei bai
    y ddaear brudd
  Riddfanna'n ddwys yn awr;
Dan fawl angylion
    gormes sydd
  Yn ymlid oesau'r llawr;
Y dyn wna gam a dyn, ni chlyw
  Ganiadau'r engyl glân;
O! gwrando'n awr, er gadael Duw,
  A chlyw y nefol gân.

O! D'wysog hedd, adwaenost Ti
  Boen, a thrueni'r llawr;
A gwyddost am ein gofid ni,
  A'n blinder lawer awr:
Gwasgara ofnau'r
    byd a'r bedd,
  Sy'n cau ein llwybrau'n lân;
A dyro i'r lluddedig hedd
  I wrando'r nefol gân.

cyf. W Evans Jones (Penllyn) 1854–1938
Tonau [8686D]:
    It Came upon the Midnight Clear / Carol
        (Richard S Willis 1819-1900)
    Noel (Hen Garol Seisnig)

Tôn [8686D+8686]:
    Seinier cyrn (Dafydd Iwan 1943- )
        (i gytgan gan Arthur D Jones)

Hymn No. 206, Away In A Manger -- I Orwedd Mewn Preseb

This carol was found at this site.
I orwedd mewn preseb rhoed Crëwr y byd,
nid oedd ar ei gyfer na gwely na chrud;
y sêr oedd yn syllu ar dlws faban Mair
yn cysgu yn dawel ar wely o wair.

A’r gwartheg yn brefu, y baban ddeffroes,
nid ofnodd, cans gwyddai na phrofai un loes.
‘Rwyf, Iesu, ‘n dy garu, O edrych i lawr
a saf wrth fy ngwely nes dyfod y wawr.

Tyrd, Iesu, i’m hymyl, ac aros o hyd
i’m caru a’m gwylio tra bwyf yn y byd;
bendithia blant bychain pob gwlad a phob iaith,
a dwg ni i’th gwmni ar derfyn ein taith.


ANAD. efel. E. CEFNI JONES, 1871-1972

(Caneuon Ffydd 450)

Hymn No. 205, Once in Royal David's City -- Draw yn Ninas Dafydd Frenin

Not in the Welsh Mormon Hymnal, but found at this site.

Draw yn ninas Dafydd Frenin,
yn y beudy isel, gwael,
dodai mam un bach mewn preseb,
nid oedd llety gwell i'w gael;
Mair fendigaid oedd y fam,
Iesu'r plentyn bach di-nam.

Rhodio daear lawr a fynnai,
yntau'n Dduw ac Arglwydd nef;
dim ond llety'r ych yn gysgod,
gwely gwair a gafodd ef;
daeth i lawr o fynwes Duw
heddiw'n Frawd i ddynol-ryw.

Drwy'i ryfeddol rawd yn blentyn
ufudd fu i'w dad a'i fam,
carai'r hon a'i gwyliai'n dirion
a'i amddiffyn rhag pob cam;
dylai plant pob gwlad a thref
fod yn ufudd fel bu ef.

Nid ym mhreseb yr anifail
y ceir eto'i weled ef,
ond yn eistedd mewn awdurdod
ar ei orsedd yn y nef;
cyd-ddyrchafwn ninnau gân
o fawr glod i'w enw glân.

efel. H W Jones
Tôn: Irby (Gauntlett)

Hymn No. 203, Angels We Have Heard on High, or Angels from the Realms of Glory -- Engyl glân o fro'r gogoniant

Angels from the Realms of Glory is a different carol but close to Angels We have Heard on High and can be sung to the same tune. You can add your own "Gloria in exelsis Deo" in place of the Dewch, addolwn" chorus. Source here.


Engyl glân o fro'r gogoniant
  Hedant, canant yn gytûn;
Clywch eu llawen gan uwch Bethlem,
  "Heddiw ganwyd Ceidwad dyn":

Dewch, addolwn, cydaddolwn
  Faban Mair sy'n wir Fab Duw,
Dewch, addolwn, cydaddolwn
  Iesu, Ceidwad dynol-ryw.

Mwyn fugeiliaid glywsant ganu
  A hwy'n gwylio'u praidd liw nos;
Gwelent Dduw ar ddyn yn gwenu
  Yng ngoleuni'r seren dlos:

Dewch, addolwn, cydaddolwn
  Faban Mair sy'n wir Fab Duw,
Dewch, addolwn, cydaddolwn
  Iesu, Ceidwad dynol-ryw.

Saint fu'n hir yn ofnus ddisgwyl
  Am ddiddanwch Israel drist,
Clywch, mae Ceidwad wedi'i eni,
  Arnom gwena Duw yng Nghrist:

Dewch, addolwn, a moliannwn
  Faban Mair sy'n wir Fab Duw,
Dewch, addolwn, a moliannwn
  Iesu, Ceidwad dynol-ryw.

efel. David Adams (Hawen) 1845-1923

Hymn No 208, O Little Town of Bethlehem -- O Dawel DDinas Bethlehem

Not from the Mormon Welsh Hymnal but a Côr Cymraeg in Seattle. Sadly, only the first verse appears.

I found two more verses at this site.

Hymn No. 202, Oh, Come, All Ye Faithful -- O! Deuwch, FFyddloniaid -- (Adeste Fidelis)

Not from the Mormon Welsh Hymnal, but this site.


O! deuwch, ffyddloniaid,
  Bawb yn gorfoleddu,
Deuwch, O deuwch
  i Fethlehem:
Ganed, chwi welwch,
  Frenin yr angylion:

    O deuwch ac addolwn,
    O deuwch ac addolwn,
    O deuwch ac addolwn
      Grist ein Duw.

Gwir Dduw o wir Dduw,
  Llewyrch yw o Lewyrch,
Gwir Ddyn a aned
  o Forwyn bur;
Duw cenedledig,
  Ac nid gwneuthuredig:

Cenwch, angylion,
  Lawen Alelwia,
Cenwch, gantorion
  y nef, i Dduw;
Cenwch "Gogoniant
  Yn y goruchafion":

Heddiw, gan hynny,
  Henffych well it, Iesu:
Boed clod a moliant
  i'th Enw gwiw;
Ymgnawdoledig
  ydyw'r Gair tragwyddol:
cyf. Evan Lewis 1818-1901 /
        Pwllgor Casglyddion Emynau'r Eglwys 1941

Hymn No. 204, Silent Night -- Tawel Nos

Not from the Mormon Welsh Hymnal, but Wikipedia yng Nghymraeg:


Tawel nos dros y byd,
Sanctaidd nos gylch y crud;
Gwylion dirion yr oedd addfwyn ddau,
Faban Duw gyda'r llygaid bach cau,
Crist, Tywysog ein hedd;
Crist, Tywysog ein hedd.

Sanctaidd nos gyda'i ser;
Mantell fwyn,cariad per
Mintai'r bugail yn dod i fwynhau
Baban Duw gyda'r llygaid bach cau,
Crist, Tywysog ein hedd;
Crist, Tywysog ein hedd.

Tawel nos, Duw ei Hun
Ar y llawr gyda dyn;
Cerddi'r engyl, a'r Ne'n trugarhau;
Baban Duw gyda'r llygaid bach cau,
Crist, Tywysog ein hedd;
Crist, Tywysog ein hedd.

Hymn No. 209, Hark the Herald Angel Sings -- Clywch Lu'r Nef yn Seinio'n Un

Not from the Mormon Welsh Hymnal, but a translation of the Christmas Carol into Welsh:

Clywch lu'r nef yn seinio'n un,
henffych eni Ceidwad dyn:
heddwch sydd rhwng nef a llawr,
Duw a dyn sy'n un yn awr.
Dewch, bob cenedl is y rhod,
unwch â'r angylaidd glod,
bloeddiwch oll â llawen drem,
ganwyd Crist ym Methlehem:
Clywch lu'r nef yn seinio'n un,
henffych eni Ceidwad dyn!

Crist, Tad tragwyddoldeb yw,
a disgleirdeb wyneb Duw:
cadarn Iôr a ddaeth ei hun,
gwnaeth ei babell gyda dyn:
wele Dduwdod yn y cnawd,
dwyfol Fab i ddyn yn Frawd;
Duw yn ddyn, fy enaid, gwêl
Iesu, ein Emanwel!
Clywch lu'r nef yn seinio'n un,
henffych eni Ceidwad dyn!

Henffych, T'wysog heddwch yw;
henffych, Haul Cyfiawnder gwiw:
bywyd ddwg, a golau ddydd,
iechyd yn ei esgyll sydd.
Rhoes i lawr ogoniant nef;
fel na threngom ganwyd ef;
ganwyd ef, O ryfedd drefn,
fel y genid ni drachefn!
Clywch lu'r nef yn seinio'n un,
henffych eni Ceidwad dyn!

Cyfieithwyd o Saesneg wreiddiol Charles Wesley
cyfieithwyr:
 Peter Jones (Pedr Fardd) 1775-1845
 Ellis Roberts (Elis Wyn o Wyrfai) 1827-1895

Hymn No. 2. The Spirit of God -- 519. Fel Tân yn Cynhesu Mae Ysbryd yr Arglwydd!


And some would say this is "The Mormon Hymn" as the Saints first sang it at the Kirtland Temple Dedication in 1836 and at many temple dedications thereafter.

Hymn No. 7. Israel, Israel, God is Calling -- 225. Tyred, Tyred i'r DDiangfa


I think this is the right match. The translation is not real close but it's on the same theme and mentions Babylon. It fits the meter and notes of the piece in English.

Hymn No. 292. O My Father -- 523. O Fy Nhad


Some consider this the Great Mormon Hymn. The poem was written by Eliza R. Snow. It was early and popular as it has continued, expressing LDS belief in a Mother in Heaven. I'm glad it was in the Welsh Hymnal of 1852.


Hymn No. 30. Come, Come, Ye Saints -- 221. Dewch, Dewch, O Saint



The words in Welsh are somewhat different. It is more of an "Oh, farewell, oh, farewell" to the old land of violence and evil for a better country of "Saints of pure hearts."

Hymn No. 11. What Was Witnessed in the Heavens? -- 2. Beth a Welwyd yn y Nefoedd


Hymn No. 1 - The Morning Breaks - Cymraeg 1 Y Boreu DDaeth



At first I thought this might be easier as Hymn No. 1 in the LDS Welsh Hymnal of 1852 is the same in the modern English version and the same as the 1851 LDS Manchester Hymnal. And there the similarities end. So this will require some work as I go.