Dan Jones preaching in Wales -- Mae Dan Jones yn pregathu yng Nghymru
LDS HYMNAL ENGLISH TO WELSH HYMN
HYMNAU SAESNEG I'R GYMRAEG

1. The Morning Breaks -- 1. Y Boreu DDaeth
10. Jesus, Lover of My Soul -- Iesu, Cyfaill F'enaid Cu

TRANSLATIONS FROM THE 1852 WELSH HYMNAL INTO ENGLISH


Extras:

Showing posts with label Nadolig. Show all posts
Showing posts with label Nadolig. Show all posts

Hymn No. 207, It Came Upon a Midnight Clear -- Ar Hanner Nos yn Glir y Daeth

From this website.

Ar hanner nos yn glir y daeth
  Y gân nefolaidd gynt;
I daro'u tannau plygu wnaeth
  Angylion ar eu hynt:
"Hedd trwy y byd, ewyllys da
  Tirionaf Frenin nef" -
Y ddaear mewn distawrwydd dwys
  Wrandawai'r hyfryd lef.

Trwy byrth y nef
    daw'r rhain o hyd
  Ar adain hedd i lawr,
A nofia'u mawl
    o'r nefol fyd
  Uwch holl flinderau'r llawr:
I lawer dyffryn galar prudd
  Ymostwng engyl glân,
Ac uwch na'r holl
    derfysgoedd sydd
  Y clywir nefol gân.

Dan bwys ei bai
    y ddaear brudd
  Riddfanna'n ddwys yn awr;
Dan fawl angylion
    gormes sydd
  Yn ymlid oesau'r llawr;
Y dyn wna gam a dyn, ni chlyw
  Ganiadau'r engyl glân;
O! gwrando'n awr, er gadael Duw,
  A chlyw y nefol gân.

O! D'wysog hedd, adwaenost Ti
  Boen, a thrueni'r llawr;
A gwyddost am ein gofid ni,
  A'n blinder lawer awr:
Gwasgara ofnau'r
    byd a'r bedd,
  Sy'n cau ein llwybrau'n lân;
A dyro i'r lluddedig hedd
  I wrando'r nefol gân.

cyf. W Evans Jones (Penllyn) 1854–1938
Tonau [8686D]:
    It Came upon the Midnight Clear / Carol
        (Richard S Willis 1819-1900)
    Noel (Hen Garol Seisnig)

Tôn [8686D+8686]:
    Seinier cyrn (Dafydd Iwan 1943- )
        (i gytgan gan Arthur D Jones)

Hymn No. 206, Away In A Manger -- I Orwedd Mewn Preseb

This carol was found at this site.
I orwedd mewn preseb rhoed Crëwr y byd,
nid oedd ar ei gyfer na gwely na chrud;
y sêr oedd yn syllu ar dlws faban Mair
yn cysgu yn dawel ar wely o wair.

A’r gwartheg yn brefu, y baban ddeffroes,
nid ofnodd, cans gwyddai na phrofai un loes.
‘Rwyf, Iesu, ‘n dy garu, O edrych i lawr
a saf wrth fy ngwely nes dyfod y wawr.

Tyrd, Iesu, i’m hymyl, ac aros o hyd
i’m caru a’m gwylio tra bwyf yn y byd;
bendithia blant bychain pob gwlad a phob iaith,
a dwg ni i’th gwmni ar derfyn ein taith.


ANAD. efel. E. CEFNI JONES, 1871-1972

(Caneuon Ffydd 450)

Hymn No. 205, Once in Royal David's City -- Draw yn Ninas Dafydd Frenin

Not in the Welsh Mormon Hymnal, but found at this site.

Draw yn ninas Dafydd Frenin,
yn y beudy isel, gwael,
dodai mam un bach mewn preseb,
nid oedd llety gwell i'w gael;
Mair fendigaid oedd y fam,
Iesu'r plentyn bach di-nam.

Rhodio daear lawr a fynnai,
yntau'n Dduw ac Arglwydd nef;
dim ond llety'r ych yn gysgod,
gwely gwair a gafodd ef;
daeth i lawr o fynwes Duw
heddiw'n Frawd i ddynol-ryw.

Drwy'i ryfeddol rawd yn blentyn
ufudd fu i'w dad a'i fam,
carai'r hon a'i gwyliai'n dirion
a'i amddiffyn rhag pob cam;
dylai plant pob gwlad a thref
fod yn ufudd fel bu ef.

Nid ym mhreseb yr anifail
y ceir eto'i weled ef,
ond yn eistedd mewn awdurdod
ar ei orsedd yn y nef;
cyd-ddyrchafwn ninnau gân
o fawr glod i'w enw glân.

efel. H W Jones
Tôn: Irby (Gauntlett)

Hymn No. 203, Angels We Have Heard on High, or Angels from the Realms of Glory -- Engyl glân o fro'r gogoniant

Angels from the Realms of Glory is a different carol but close to Angels We have Heard on High and can be sung to the same tune. You can add your own "Gloria in exelsis Deo" in place of the Dewch, addolwn" chorus. Source here.


Engyl glân o fro'r gogoniant
  Hedant, canant yn gytûn;
Clywch eu llawen gan uwch Bethlem,
  "Heddiw ganwyd Ceidwad dyn":

Dewch, addolwn, cydaddolwn
  Faban Mair sy'n wir Fab Duw,
Dewch, addolwn, cydaddolwn
  Iesu, Ceidwad dynol-ryw.

Mwyn fugeiliaid glywsant ganu
  A hwy'n gwylio'u praidd liw nos;
Gwelent Dduw ar ddyn yn gwenu
  Yng ngoleuni'r seren dlos:

Dewch, addolwn, cydaddolwn
  Faban Mair sy'n wir Fab Duw,
Dewch, addolwn, cydaddolwn
  Iesu, Ceidwad dynol-ryw.

Saint fu'n hir yn ofnus ddisgwyl
  Am ddiddanwch Israel drist,
Clywch, mae Ceidwad wedi'i eni,
  Arnom gwena Duw yng Nghrist:

Dewch, addolwn, a moliannwn
  Faban Mair sy'n wir Fab Duw,
Dewch, addolwn, a moliannwn
  Iesu, Ceidwad dynol-ryw.

efel. David Adams (Hawen) 1845-1923

Hymn No 208, O Little Town of Bethlehem -- O Dawel DDinas Bethlehem

Not from the Mormon Welsh Hymnal but a Côr Cymraeg in Seattle. Sadly, only the first verse appears.

I found two more verses at this site.

Hymn No. 202, Oh, Come, All Ye Faithful -- O! Deuwch, FFyddloniaid -- (Adeste Fidelis)

Not from the Mormon Welsh Hymnal, but this site.


O! deuwch, ffyddloniaid,
  Bawb yn gorfoleddu,
Deuwch, O deuwch
  i Fethlehem:
Ganed, chwi welwch,
  Frenin yr angylion:

    O deuwch ac addolwn,
    O deuwch ac addolwn,
    O deuwch ac addolwn
      Grist ein Duw.

Gwir Dduw o wir Dduw,
  Llewyrch yw o Lewyrch,
Gwir Ddyn a aned
  o Forwyn bur;
Duw cenedledig,
  Ac nid gwneuthuredig:

Cenwch, angylion,
  Lawen Alelwia,
Cenwch, gantorion
  y nef, i Dduw;
Cenwch "Gogoniant
  Yn y goruchafion":

Heddiw, gan hynny,
  Henffych well it, Iesu:
Boed clod a moliant
  i'th Enw gwiw;
Ymgnawdoledig
  ydyw'r Gair tragwyddol:
cyf. Evan Lewis 1818-1901 /
        Pwllgor Casglyddion Emynau'r Eglwys 1941

Hymn No. 204, Silent Night -- Tawel Nos

Not from the Mormon Welsh Hymnal, but Wikipedia yng Nghymraeg:


Tawel nos dros y byd,
Sanctaidd nos gylch y crud;
Gwylion dirion yr oedd addfwyn ddau,
Faban Duw gyda'r llygaid bach cau,
Crist, Tywysog ein hedd;
Crist, Tywysog ein hedd.

Sanctaidd nos gyda'i ser;
Mantell fwyn,cariad per
Mintai'r bugail yn dod i fwynhau
Baban Duw gyda'r llygaid bach cau,
Crist, Tywysog ein hedd;
Crist, Tywysog ein hedd.

Tawel nos, Duw ei Hun
Ar y llawr gyda dyn;
Cerddi'r engyl, a'r Ne'n trugarhau;
Baban Duw gyda'r llygaid bach cau,
Crist, Tywysog ein hedd;
Crist, Tywysog ein hedd.

Hymn No. 209, Hark the Herald Angel Sings -- Clywch Lu'r Nef yn Seinio'n Un

Not from the Mormon Welsh Hymnal, but a translation of the Christmas Carol into Welsh:

Clywch lu'r nef yn seinio'n un,
henffych eni Ceidwad dyn:
heddwch sydd rhwng nef a llawr,
Duw a dyn sy'n un yn awr.
Dewch, bob cenedl is y rhod,
unwch â'r angylaidd glod,
bloeddiwch oll â llawen drem,
ganwyd Crist ym Methlehem:
Clywch lu'r nef yn seinio'n un,
henffych eni Ceidwad dyn!

Crist, Tad tragwyddoldeb yw,
a disgleirdeb wyneb Duw:
cadarn Iôr a ddaeth ei hun,
gwnaeth ei babell gyda dyn:
wele Dduwdod yn y cnawd,
dwyfol Fab i ddyn yn Frawd;
Duw yn ddyn, fy enaid, gwêl
Iesu, ein Emanwel!
Clywch lu'r nef yn seinio'n un,
henffych eni Ceidwad dyn!

Henffych, T'wysog heddwch yw;
henffych, Haul Cyfiawnder gwiw:
bywyd ddwg, a golau ddydd,
iechyd yn ei esgyll sydd.
Rhoes i lawr ogoniant nef;
fel na threngom ganwyd ef;
ganwyd ef, O ryfedd drefn,
fel y genid ni drachefn!
Clywch lu'r nef yn seinio'n un,
henffych eni Ceidwad dyn!

Cyfieithwyd o Saesneg wreiddiol Charles Wesley
cyfieithwyr:
 Peter Jones (Pedr Fardd) 1775-1845
 Ellis Roberts (Elis Wyn o Wyrfai) 1827-1895