Hwylia 'nghalon, O! fy Arglwydd,
I glodfori rhyfedd ras;
Galw mae dy drugareddau
Am y gān bereiddia'i blas;
Dysg im ryw nefolaidd fesur
Genir gan y dyrfa fry;
Boed dy gariad digyfnewid
Byth yn destun mawl i mi.
Codaf yma f'Ebeneser -
Gras a'm nerthodd hyd yn hyn;
Yn dy ras gobeithiaf eto
Am fy nwyn i Seion fryn,
Iesu ddaeth o'r nef i'm ceisio,
A mi'n crwydro 'mhell o dre;
Ac i'm gwared o'm peryglon
Rhoes ei fywyd yn fy lle.
cyf. Thomas Rees 1815-55Tonau [8787D]:
Austria (Franz Joseph Haydn 1732-1809)
Nettleton (1813 John Wyeth 1770-1858)
gwelir: Tyred Awdwr gras a rhinwedd
No comments:
Post a Comment
These comments are moderated. Please be respectful. Commercial solicitations and offensive comments are sent to spam and will be reported.