Pan wyt ar fôr bywyd
ac o don i don,
Pan fo ofni suddo
yn tristáu dy fron,
Cyfrif y bendithion,
bob yn un ac un,
Synnu wnei at gymaint
a wnaeth Duw i ddyn.
Cyfrif y bendithion,
un ac un,
Cyfrif gymaint
a wnaeth Duw i ddyn,
Cyfrif y bendithion,
cyfrir un ac un,
Synnu wnei at gymaint
a wnaeth Duw i ddyn.
A yw baich gofalon bywyd,
ddaw i'th ran,
Gyda phwysau'r groes
yn llethu d'ysbryd gwan?
Cyfrif y bendithion
a rydd nerth i'r daith;
Yn lle cwyno, canu mwyach
fydd dy waith.
Os oes rhai yn meddu aur
a thir y llawr,
Cofia fod i tithau
etifeddiaeth fawr;
Cyfrif y bendithion,
maent uwch gwerth y byd,
Eiddot Iesu'n ffrind,
a'r nef yn gartref clyd.
Felly yn y rhyfel,
er mor danllyd yw,
Paid a digalonni -
drosot mae dy Dduw;
Cyfrif y bendithion,
mae ei engyl ef
Yn dy wylio nes it
gyrraedd fry i'r nef.
cyf. T G Thomas 1859-1937, Tre-boeth, Abertawe.
Tôn:
Cyfrif y Bendithion / Count your Blessings
(Edwin O Excell 1850-1921)
No comments:
Post a Comment
These comments are moderated. Please be respectful. Commercial solicitations and offensive comments are sent to spam and will be reported.