Ein Duw, ein nerth
drwy'r oesau fu,
Ein gobaith am y ddaw,
Ein cysgod rhag y corwynt cry',
A'n cartref bythol draw;
Bu trigfa dy orseddfainc Di
Erioed i'th saint yn nyth;
Dy fraich ei hunan, digon hi;
Yn noddfa i ninnau byth.
Cyn trefnu'r bryniau
wrth eu rhyw,
Cyn cael
o'r ddaear lun,
O dragwyddoldeb Ti wyt Duw,
Heb ddiwedd oes, yr un.
Ein Duw, ein nerth
drwy'r oesau fu,
Ein gobaith am a ddaw,
Tra pery trallod bydd o'n tu,
A'n cartref bythol draw.
cyf. R Morris Lewis 1847-1918
Tôn [MC 8686]: St Ann(e) (William Croft 1678-1727)
gwelir:
Ein Duw ein porth mewn oesoedd maith
O Dduw ein nerth drwy'r oesoedd fu (cyf. Ifor L Evans)
O Dduw ein nerth mewn oesoedd gynt (cyf. J C Davies)
O Dduw ein nerth mewn oesoedd gynt
No comments:
Post a Comment
These comments are moderated. Please be respectful. Commercial solicitations and offensive comments are sent to spam and will be reported.