(Goleu ar y lan)
Mae goleuni'r nef i d'wynu,
Dros y don i'r morwr gwan;
Ond i ni mae Duw'n ymddiried,
Cadw goleu ar y lan.
Cadw'th lamp i losgi'n oleu
A disgleirio ar y dòn;
Gelli achub bywyd rhywun,
Y'ngoleuni gwanaidd hon.
Y mae'r nos yn ddu a gerwin,
Rhua'r dymestl yn mhob man;
Y mae llygaid prudd yn tremio,
Am y goleu ar y lan.
Cadw'th lamp i losgi'n oleu
A disgleirio ar y dòn;
Gelli achub bywyd rhywun,
Y'ngoleuni gwanaidd hon.
Cadw'th lamp i losgi'n loew,
Cofia am y morwr gwan;
Rhag y collir bywyd hwnw,
Eisiau goleu ar y lan.
Cadw'th lamp i losgi'n oleu
A disgleirio ar y dòn;
Gelli achub bywyd rhywun,
Y'ngoleuni gwanaidd hon.
cyf. Watkin Hezekiah Williams (Watcyn Wyn) 1844-1905
Tôn [8787D]:
Goleu Ar Y Lan / Let The Lower Lights Be Burning
(1871 Philip P Bliss 1838-76)
No comments:
Post a Comment
These comments are moderated. Please be respectful. Commercial solicitations and offensive comments are sent to spam and will be reported.