Duw fo gyda chwi nes eto gwrdd!
Boed i'w gyngor cryf eich cynnal,
Cadwed chwi fel yn Ei ofal;
Duw fo gyda chwi, fo gyda chwi,
Duw fo gyda chwi nes eto gwrdd.
Eto gwrdd, eto gwrdd,
Cwrdd a'r Iesu wrth y bwrdd,
Eto gwrdd, eto gwrdd,
Duw fo gyda chwi nes eto gwrdd.
Duw fo gyda chwi nes eto gwrdd!
Cuddied chwi, â'i aden dyner,
Doed y manna yn ei amser -
Duw fo gyda chwi, fo gyda chwi,
Duw fo gyda chwi nes eto gwrdd.
Duw fo gyda chwi nes eto gwrdd!
Pan fo'ch bywyd mewn peryglon
Yn Ei law y byddo'ch coron -
Duw fo gyda chwi, fo gyda chwi,
Duw fo gyda chwi nes eto gwrdd.
Duw fo gyda chwi nes eto gwrdd!
Baner cariad uwch eich pennau
Fo'n tawelu afon angeu -
Duw fo gyda chwi, fo gyda chwi,
Duw fo gyda chwi nes eto gwrdd.
efel. G Pennar Griffiths (Penar) 1860-1918
Tôn [988(9)9+6769]:
Duw Fo gyda Chwi (David William Lewis 1845-1920)
This comment has been removed by a blog administrator.
ReplyDelete