Am Brydferthwch Daear Fyd
Am brydferthwch daear fyd,
Am brydferthwch wybren dlos,
Am y cariad er ein crud
Sydd o'n amgylch ddydd a nos:
Nefol Dad, yn awr nyni
Roddwn aberth mawl i ti.
Am ein holl berthnasau cu,
Plant, rhieni, chwaer a brawd;
Ceraint yma, ceraint fry;
Am bob meddwl tyner gawd;
Am dy rhoddion perffaith, rhad
I'r dynoliaeth, codwn lef -
Grasau dynol a dwyfol had,
Blodau'r llawr a blagur nef -
Am yr Eglwys gwyd o hyd
Ei dihalog ddwylaw fry,
Gan offrymu trwy y byd
Aberth pur ei chariad cry';
Nefol Dad, yn awr nyni
Roddwn aberth mawl i ti.
Thomas Jones 1850-1937
Tôn [77.77.77]: Dix (Conrad Kocher / W H Monk)
gwelir: Am brydferthwch daear lawr
No comments:
Post a Comment
These comments are moderated. Please be respectful. Commercial solicitations and offensive comments are sent to spam and will be reported.