Arglwydd, Arwain Trwy'r Anialwch
1745 William Williams 1717-91
Tonau [878747]:
Caersalem (Robert Edwards 1796-1862)
Calfari (Samuel Stanley 1767-1822)
Capel y Ddôl (J D Jones 1827-70)
Catherine (David Roberts [Alawydd] 1820-72)
Clement (hen alaw eglwysig)
Cwm Rhondda (1907 John Hughes 1873-1932)
Catherine (David Roberts [Alawydd] 1820-72)
Dix (William H Monk 1823-89)
Erromanga (<1875)
Hyder (Richard Ellis 1775-1855)
Llan Baglan (D Afan Thomas 1881-1928)
Llanilar (alaw Gymreig)
Pilgrimage (George J Elvey 1816-93)
St Peter (alaw Eglwysig)
Tamworth (<1835)
gwelir: Agor y ffynonau melus
Arglwydd agor im' dy fynwes
Ymddiriedaf ynot Iesu
___________
The Translation from Brigham Young University Resources for Welsh Learners follows:
Arglwydd, arwain trwy'r anialwch,
Fi, bererin gwael ei wedd,
Nad oes ynof nerth na bywyd
Fel yn gorwedd yn y bedd:
Hollalluog,
Ydyw'r Un a'm cwyd i'r lan.
Os agori im' dy fynwes,
I gael gwel'd y cariad llawn,
Lifodd allan fel y moroedd
Ar Galfaria un prydnawn:
Ti gai'r cwbl,
Roddaist imi yn fy rhan.
Myfi grwydrais hir flynyddau,
Ac heb weled goleu'r wawr,
Anobeithiais heb dy allu
Dd'od o'r anial dir yn awr!
Dere dy hunan,
Dyna'r pryd y dof i maes.
Colofn dân rho'r nos i'm harwain,
A rho'r golofn niwl y dydd;
Dal fi pan bwy'n teithio'r manau
Geirwon yn fy ffordd y sydd:
Rho i mi fanna,
Fel na bwyf yn llwfwrhau.
Agor y ffynhonnau melus
Sydd yn tarddu o'r graig i maes;
'R hyd yr anial mawr canlyned
Afon iachawdwriaeth gras:
Rho i mi hynny,
Dim i mi ond dy fywnhau.
Pan bwy'n myned trwy'r Iorddonen
Angeu creulon yn ei rym,
Ti 'est trwyddi gynt dy hunan,
P'am yr ofnaf bellach ddim?
Buddugoliaeth,
Gwna imi waeddi yn y llif!
Ymddiriedaf yn dy allu,
Mawr yw'r gwaith a wnest erioed:
Ti ge'st angau, ti gest uffern,
Ti ge'st Satan dan dy droed:
Pen Calfaria,
Nac aed hwnw byth o'm côf.
trwy'r anialwch :: drwy'r anialwch
Colofn dân rho'r nos ::
Dyro y Golofn dân
Nos, rho'r golofn dân
Rho'r golofn dân y nos
A rho'r golofn niwl :: A'r cwmwl niwl o'mlaen
Rho i mi :: Rho im'
na bwyf yn llwfwrhau ::
na b'wyf i lwyfrhau
na bo im' lwywrhau
Dim i mi ond :: Fel y gallwyf
Gwna imi :: Gwna im'
iachawdwriaeth :: iechydwriaeth
Ymddiriedaf :: Mi ymddiriedaf
a wnest erioed :: a wne'st ti erioed
- - - - -
Arglwydd, arwain trwy'r anialwch,
Fi bererin gwael ei wedd,
Dyro ynof nerth a rhinwedd
Nes im' orwedd yn fy medd:
Hollalluog,
Dal i fyny f'enaid gwan.
Agor y ffynhonnau melys
Sydd o'r graig yn tarddu maes;
Hyd yr anial mawr canlyned
Afon iachawdwriaeth gras:
Gâd im' yfed,
Byth o ffrydiau bywiol hon.
Rho'r golofn dân y nos,
Dyro gwmwl niwl y dydd;
Dal fi pan f'wy'n teithio'r manau
Geirwon yn fy ffordd y sydd:
Cadw ngolwg,
Beunydd tua'r hyfryd wlad.
1745 William Williams 1717-91
Tonau [878747]:
Caersalem (Robert Edwards 1796-1862)
Calfari (Samuel Stanley 1767-1822)
Capel y Ddôl (J D Jones 1827-70)
Catherine (David Roberts [Alawydd] 1820-72)
Clement (hen alaw eglwysig)
Cwm Rhondda (1907 John Hughes 1873-1932)
Catherine (David Roberts [Alawydd] 1820-72)
Dix (William H Monk 1823-89)
Erromanga (<1875)
Hyder (Richard Ellis 1775-1855)
Llan Baglan (D Afan Thomas 1881-1928)
Llanilar (alaw Gymreig)
Pilgrimage (George J Elvey 1816-93)
St Peter (alaw Eglwysig)
Tamworth (<1835)
gwelir: Agor y ffynonau melus
Arglwydd agor im' dy fynwes
Ymddiriedaf ynot Iesu
___________
The Translation from Brigham Young University Resources for Welsh Learners follows:
Cwm Rhondda | Guide Us, O Thou Great Jehovah |
Wele’n sefyll rhwng y myrtwydd | Guide us, O thou great Je-ho-vah, |
Wrthddrych teilwng o fy mryd; | Guide us to the prom-mised land. |
Er o’r braidd ‘rwy’n Ei adnabod | We are weak, but thou art a-ble; |
Ef uwchlaw gwrthrychau’r gyd: | Hold us with thy pow’r-ful hand. |
Henffych fore! Henffych fore! | Ho-ly Spir-it, Ho-ly Spir-it, |
Caf ei weled fel y mae. | Feed us till the Sav-ior comes, Savior comes, |
Caf ei weled fel y mae. | Feed us till the Sav-ior comes. |
Agor y ffynhonnau melus | O-pen Jesus, Zion’s fountains; |
‘N tarddui maes o’r Graig y sydd | Whence the healing streams do flow; |
Colofn dan rho’r nos i’m harwain | Let the fi-ery, cloud-y pil-lar |
A rho golofn niwl y dydd | Guard us to this ho-ly home. |
Rho i mi fanna, Rho i mi fanna | Great Redeemer, Great Re-deem-er, |
Fel na bwyf yn llwfwrhau | Feed us till the Sa-vior comes, Savior comes, |
Fel na bwyf yn llfwrhau. | Feed us till the Sa-vior comes. |
Pan yn troedio glan Iorddonen | When the earth be-gins to trem-ble, |
Par i’m hafnau suddo i gyd | Bid our fear-ful thoughts be still; |
Dwg fi drwy y tonnau geirwon | When thy judg-ments spread de-struc-tion, |
Draw i Gannan-gartref clyd: | Keep us safe on Zi-on’s hill, |
Mawl diderfyn, Mawl diderfyn | Sing-ing prais-es, Sing-ing prais-es, |
Fydd i’th enw byth am hyn | Songs of glo-ry un-to the, un-to thee, |
Fydd i’th enw byth am hyn. | Songs of glo-ry un-to thee. |
No comments:
Post a Comment
These comments are moderated. Please be respectful. Commercial solicitations and offensive comments are sent to spam and will be reported.