O! deuwch, ffyddloniaid,
Bawb yn gorfoleddu,
Deuwch, O deuwch
i Fethlehem:
Ganed, chwi welwch,
Frenin yr angylion:
O deuwch ac addolwn,
O deuwch ac addolwn,
O deuwch ac addolwn
Grist ein Duw.
Gwir Dduw o wir Dduw,
Llewyrch yw o Lewyrch,
Gwir Ddyn a aned
o Forwyn bur;
Duw cenedledig,
Ac nid gwneuthuredig:
Cenwch, angylion,
Lawen Alelwia,
Cenwch, gantorion
y nef, i Dduw;
Cenwch "Gogoniant
Yn y goruchafion":
Heddiw, gan hynny,
Henffych well it, Iesu:
Boed clod a moliant
i'th Enw gwiw;
Ymgnawdoledig
ydyw'r Gair tragwyddol:cyf. Evan Lewis 1818-1901 /
Pwllgor Casglyddion Emynau'r Eglwys 1941
No comments:
Post a Comment
These comments are moderated. Please be respectful. Commercial solicitations and offensive comments are sent to spam and will be reported.