Draw yn ninas Dafydd Frenin,
yn y beudy isel, gwael,
dodai mam un bach mewn preseb,
nid oedd llety gwell i'w gael;
Mair fendigaid oedd y fam,
Iesu'r plentyn bach di-nam.
Rhodio daear lawr a fynnai,
yntau'n Dduw ac Arglwydd nef;
dim ond llety'r ych yn gysgod,
gwely gwair a gafodd ef;
daeth i lawr o fynwes Duw
heddiw'n Frawd i ddynol-ryw.
Drwy'i ryfeddol rawd yn blentyn
ufudd fu i'w dad a'i fam,
carai'r hon a'i gwyliai'n dirion
a'i amddiffyn rhag pob cam;
dylai plant pob gwlad a thref
fod yn ufudd fel bu ef.
Nid ym mhreseb yr anifail
y ceir eto'i weled ef,
ond yn eistedd mewn awdurdod
ar ei orsedd yn y nef;
cyd-ddyrchafwn ninnau gân
o fawr glod i'w enw glân.
efel. H W JonesTôn: Irby (Gauntlett)
No comments:
Post a Comment
These comments are moderated. Please be respectful. Commercial solicitations and offensive comments are sent to spam and will be reported.