Dan Jones preaching in Wales -- Mae Dan Jones yn pregathu yng Nghymru
LDS HYMNAL ENGLISH TO WELSH HYMN
HYMNAU SAESNEG I'R GYMRAEG

1. The Morning Breaks -- 1. Y Boreu DDaeth
10. Jesus, Lover of My Soul -- Iesu, Cyfaill F'enaid Cu

TRANSLATIONS FROM THE 1852 WELSH HYMNAL INTO ENGLISH


Extras:

Hymn No. 246, Onward, Christian Soldiers -- Rhagom, filwyr Iesu

This hymn, found here, has an additional verse that is not in the modern, LDS Hymnal about the church never changing, built on the rock, etc. Also note that the music is by Sir Arthur Sullivan of Gilbert and Sullivan fame.


(Cân yr Eglwys Filwriaethus)
[Song of the Church Militant]

Rhagom, filwyr Iesu
  Awn i'r gad yn hy!
Gwelwn groes ein Prynwr
  Hon yw'n cymorth cry';
Crist, frenhinol Arglwydd,
  Yw'n Harweinydd mad;
Chwifio mae ei faner,
  Geilw ni i'r gad.

  Rhagom, filwyr Iesu!
    Awn i'r gad yn hy!
  Gwelwn groes ein Prynwr
    Hon yw'n cymorth cry'.

Arwydd buddugoliaeth,
  Wna i Satan ffoi;
Filwyr ffyddlawn Iesu,
  Dowch yn ddiymdroi:
Seiliau uffern grynant
  Gan y nerthol floedd,
Frodyr, bloeddiwch eto,
  Molwch Ef ar goedd.

Fel rhyw fyddin arfog
  Symud, Eglwys Dduw!
Frodyr, lle y troediwn,
  Llwybr y seintiau yw;
Nid ym ni'n rhanedig,
  Ond un corff di-goll,
Un mewn ffydd a gobiath,
  Un mewn cariad oll.
Dowch gan hynny, bobloedd
  Dyma'r dedwydd lu;
Y fuddugol anthem
  Seiniwch gyda ni:
Moliant ac anrhydedd
  Byth i'r Iesu glan;
Dynion ac angylion
  Unant yn y gan!
hy' :: hyf
cry' :: cryf

1865 Sabine Baring-Gould 1834-1924
Cyf. Lewis Edwards 1809-1887
Tonau [6565T]:     ? (J H Roberts (Pencerdd Gwynedd) 1848-1924)     Caledfryn / Vexillum (Henry Smart 1813-79)     St Gertrude (Arthur Sullivan 1842-1900)

Hymn No. 160, Softly Now the Light of Day -- Tyner Oleu'r Dydd yn Awr

This hymn found here, has two more verses in both English and Welsh. The modern, LDS Hymnal only uses the first verse (which makes it nice for a closing hymn after a long meeting).

Tyner oleu'r dydd yn awr
  Dderfydd nes y cwyd y wawr;
Gofal ffŷ, a llafur blin,
  Rho'th gymdeithas, Ddwyfol Un.

cyf. James Celty Jones 1843-1912
George Washington Doane 1799-1859Tunes [7777]:
    Mercy (Louis Moreau Gottschalk 1829-69)
    Seymour (Carl M von Weber 1786-1826)

Hymn No. 97, Lead, Kindly Light -- Oleuni Mwyn, Trwy'r Gwyll Sy'n Cau Bob Tu

Source for this hymn here.

Oleuni mwyn,
    trwy'r gwyll sy'n cau bob tu,
  O! Arwain fi;
Pell oddi cartref wyf,
      a'r nos yn ddu,
  O! Arwain fi;
Cadw fy nhraed;
    ni cheisiaf weled dim
O'r tir sy' draw;
    un cam sy ddigon im.

Nid oeddwn gynt
    yn ymbil am i'th wawr
  Fy arwain i;
Dethol fy ffordd
    a fynnwn, ond yn awr
  O arwain Di:
Carwn y llachar ddydd;
    er ofnau'r hynt
Bu balch fy mryd:
    na chofia'r amser gynt.

Diau dy allu,
    a'm bendithiodd cyd
  A'm harwain i
Dros waun a rhos
    dros graig a chenllif, hyd
  Pan wawrio hi,
A'r engyl gyda'r wawr,
     yn gweu fo,
A gerais er ys talm,
    a gollais dro.

cyf. Sir John Morris-Jones 1864-1929Tonau [10.4.10.4.10.10]:
    Lux Benigna (John B Dykes 1823-76)
    Arweiniad (R Mills 1846-1903)
    Bonifacio (David Evans 1874-1948)
    Sandon (C H Purday 1799-1885)
gwelir:
    Oleuni mwyn trwy dew gysgodau'r nef
    Ynghanol nos oleuni mwyn y nef