Hymn No. 152, God Be With You Till We Meet Again -- Duw Fo Gyda CHwi Nes Eto Gwrdd!

Source for this hymn here.

Duw fo gyda chwi nes eto gwrdd!
  Boed i'w gyngor cryf eich cynnal,
  Cadwed chwi fel yn Ei ofal;
Duw fo gyda chwi, fo gyda chwi,
Duw fo gyda chwi nes eto gwrdd.

    Eto gwrdd, eto gwrdd,
      Cwrdd a'r Iesu wrth y bwrdd,
    Eto gwrdd, eto gwrdd,
      Duw fo gyda chwi nes eto gwrdd.

Duw fo gyda chwi nes eto gwrdd!
  Cuddied chwi, â'i aden dyner,
  Doed y manna yn ei amser -
Duw fo gyda chwi, fo gyda chwi,
Duw fo gyda chwi nes eto gwrdd.

Duw fo gyda chwi nes eto gwrdd!
  Pan fo'ch bywyd mewn peryglon
  Yn Ei law y byddo'ch coron -
Duw fo gyda chwi, fo gyda chwi,
Duw fo gyda chwi nes eto gwrdd.

Duw fo gyda chwi nes eto gwrdd!
  Baner cariad uwch eich pennau
  Fo'n tawelu afon angeu -
Duw fo gyda chwi, fo gyda chwi,
Duw fo gyda chwi nes eto gwrdd.

efel. G Pennar Griffiths (Penar) 1860-1918
Tôn [988(9)9+6769]:
    Duw Fo gyda Chwi (David William Lewis 1845-1920)

1 comment:

  1. This comment has been removed by a blog administrator.

    ReplyDelete

These comments are moderated. Please be respectful. Commercial solicitations and offensive comments are sent to spam and will be reported.